Pump i’r Penwythnos – 29 Tachwedd 2019

Gig: Al Lewis – Eglwys Llanengan – 30/11/19

Mae’n benwythnos o gigs bach cartrefol mae’n ymdangos gyda swp o gigs bach da ledled y wlad.

I ddechrau, mae cwpl o gigs ‘Bryn Bach’ gan Bryn Fôn – yn gyntaf ym Mhortmeirion heno, ac yna yng Nhlynnog Fawr nos fory.

Un arall sydd â chwpl o gigs ydy Al Lewis sy’n dechrau ar ei gyfres o nosweithiau Nadoligaidd yng nghanolfan Garth Olwg ger Pontypridd heno. Cyfle wedyn i weld ‘Bing Crosby Cymru’ nos Sadwrn yn Eglwys Llanengan ger Abersoch.

Mae cwpl o lansiadau arwyddocaol yng Nghaernarfon dros y penwythnos. Heno, mae’n noson fawr i Alffa wrth iddynt rhyddhau eu halbwm cyntaf, Rhyddid o’r Cysgodion Gwenwynig, a hynny yn Nhŷ Glyndŵr. Yna, nos fory bydd noson yng nghwmi Huw Chiswell yn y Galeri wrth iddo gyhoeddi ei lyfr newydd, ‘Shwd Ma’i yr Hen Ffrind’.

Cwpl o deithiau sy’n parhau wedyn, sef taith ‘Gadael Tir’ sy’n ymweld â Thafarn y Fic, Llithfaen heno cyn symud ymlaen i Lanystumdwy nos fory. Hefyd yn dal i deithio mae sioe ‘ORIG!” Gai Toms a’r Banditos sy’n ymweld â’r Duke of Wellington yn y Bontfaen nos fory.

Cwpl o gigs bach neis heno i gloi, sef y Welsh Whisperer yng Nghlwb Rygbi Blaenau Ffestiniog, a Mellt yn Nhafarn y Ship yn Llangrannog.

 

Cân: ‘Bwystfil Prydferth’ – Dienw

Grŵp ifanc sy’n prysur wneud eu marc ydy Dienw, ac mae eu sengl newydd allan ers dydd Gwener diwethaf, 22 Tachwedd.

‘Bwystfil Prydferth’ ydy ail sengl y ddeuawd o Arfon, gan ddilyn yn fuan ar ôl y gyntaf, sef ‘Sigaret’ a ryddhawyd fis yn ôl.

Dienw ydy Twm Herd ar y gitâr ac yn canu, ac Osian Land sy’n chwarae’r drymiau.

Ffurfiodd y grŵp yn 2017 ac maent wedi bod yn gigio tipyn ers hynny, ond teg dweud mai dros y 6 mis diwethaf maen nhw wir wedi dechrau creu argraff.

Yn ôl y band mae ‘Bwystfil Prydferth’ yn rhyw fath o gyfeiriad at y ffilm ‘Beauty and the Beast’ ac yn gân llawer mwy ‘serious’ na’r sengl gyntaf. Teg dweud bod llai o fynd iddi na ‘Sigaret’, ond mae’r alaw yn fachog ac yn gofiadwy iawn.

Un o’r pethau mwyaf cofiadwy ydy chwibannu Twm ar ddiwedd y gytgan, ac mae’n debyg bod hyn wedi datblygu o’i ddiffyg amynedd i chwarae’r riff gitâr wrth i’r ddeuawd ymarfer.

Recordiwyd y trac yn Stiwdio Drwm gydag Ifan ac Osian Candelas. Mae’r sengl allan yn ddigidol yn yr holl fannau arferol diolch i Recordiau I KA CHING.

Record: Rhyddid o’r Cysgodion Gwenwynig – Alffa

Dyma albwm rydan ni wedi bod yn aros yn eiddgar amdano ers peth amser, ac o’r diwedd mae’r dyddiad rhyddhau wedi cyrraedd.

Flwyddyn yn ôl, wrth i’r trac ‘Gwenwyn’ groesi miliwn ffrwd ar Spotify, fe ddywedodd rheolwr label Recordiau Côsh, Yws Gwynedd, wrth Y Selar bod y llwyddiant yn golygu fod y label yn gallu fforddio recordio a rhyddhau albwm cyfan gan y band.

Heno, bydd Dion a Sion yn rhyddhau’r albwm hwnnw yn Nhŷ Glyndŵr, Caernarfon. Bydd hogia Sôn am Sîn yn cynnal sesiwn holi gyda’r band, yn ogystal â DJio, a bydd Dienw hefyd yn cefnogi.

Bydd copiau CD o’r albwm ar werth yn y lansiad heno, ond y newyddion gwell fyth ydy bod fersiwn feinyl melyn o’r record ar y ffordd hefyd – gallwch rag-archebu ar wefan Alffa rŵan.

Dyma un o draciau’r albwm, ‘Amen’:

 

Artist: Adwaith

Does dim rhaid edrych yn bell ar gyfer ein dewis o artist yr wythnos hon achos un enw sydd ar wefusau pawnb – Adwaith!

Roedd y grŵp o Gaerfyrddin yn chwarae allan yng Nghanada yng ngŵyl M pour Montreal dros y penwythnos, a hynny wrth iddynt ryddhau eu sengl ddwbl ddiweddaraf ddydd Gwener diwethaf, sef ‘Orange Sofa / Byd Ffug’.

Ac i goronni wythnos gofiadwy, be well na chipio’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig nos Fercher!

Roedd albwm cyntaf Adwaith, Melyn, wedi’i enwi ar y rhestr fer ynghyd ag unarddeg o recordiau Cymreig ardderchog eraill, gan gynnwys un oedd wedi’i enwebu ar gyfer Gwobr Mercury eleni!

Rhyddhwyd yr albwm ar label Recordiau Libertino ym mis Hydref 2018, ac mae’r naratif ynglŷn â record hir gyntaf y triawd wedi bod yn gryf ers hynny.  Gallwch ddarllen mwy am yr albwm a’r grŵp yn ein cyfweliad gyda Gwenllian o’r band yn rhifyn Awst 2018 o’r Selar.

Yn fwy na dim, mae’r band wedi gweithio’n hynod o galed i gyrraedd lle maen nhw, ac yn esiampl i unrhyw artist ifanc uchelgeisiol.

Llongyfarchiadau mawr Hollie, Gwenllian a Heledd!

Dyma fideo ‘Y Diweddaraf’, sy’n blwmin tiiiiwn:

 

Un peth arall…: Ffilm Fer Ani Glass

Newyddion da a newyddion drwg…

Y newyddion da: mae Ani Glass wedi gorffen recordio ei halbwm cyntaf – hwre!

Y newyddion drwg: bydd rhaid i ni aros nes 6 Mawrth 2020 nes clywed ei record hir gyntaf –  bwww!

Ond, peidiwch a digalonni, achos rydan ni’n weddol hyderus bydd hi’n werth yr aros. Mae Ani hefyd wedi bod yn trafod yr albwm, fydd yn dwyn yr enw Mirores, mewn ffilm ddogfen fer sydd wedi’i gyhoeddi gan ei label, Recordiau Neb.

Yn y ffilm mae Ani’n datgelu bod dinas Caerdydd yn themau ganolog i’r albwm, ac ei fod yn gasgliad rhannol gysyniadol ynglŷn â diwrnod ym mhrif ddinas Cymru a’r profiadau mae rhywun yn ei gael.

Mae hefyd yn adlewyrchu ei phrofiadau hi’n cael ei magu yn y ddinas, ac mae Ani’n trafod rhywfaint ar hynny yn ffilm fer.

Dyma’r ffilm yn llawn i chi gael clywed mwy am Mirores: