Gig: Maffia Mr Huws, Gwibdaith Hen Frân, Phil Gas a’r Band, Geraint Lövgreen – Trôns Dy Dad 2, Y Maes, Caernarfon – 31/08/19
Dim llwyth o gigs yn digwydd penwythnos yma, ond cwpl o wyliau bach da yr olwg sy’n llawn haeddu sylw.
Ein prif argymhelliad y penwythnos yma ydy gig/gŵyl ‘Trôns Dy Dad’ ar Y Maes yng Nghaernarfon ddydd Sadwrn lle bydd Maffia Mr Huws, Phil Gas a’r Band, Geraint Lövgreen ac wrth gwrs Gwibdaith Hen Frân.
Gŵyl fach arall ddigon neis yr olwg ydy Gŵyl Llanuwchllyn ger Y Bala. Celt ydy’r hedleinar gyda’r hwyr gyda chefnogaeth gan Y Cledrau, Gwilym a’r grŵp ifanc lleol, Y Storm.
Mae ‘na gyfle i ddal Elis Derby yn chwarae’n fyw nos Sadwrn hefyd, a hynny fel rhan o adloniant nos Sioe Llangwm.
Cân: ‘Dilyn Iesu Grist’ – Los Blancos
Un o grwpiau mwyaf cyffrous Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf heb os ydy Los Blancos, ac mae eu sengl newydd, ‘Dilyn Iesu Grist’, allan ers dydd Gwener diwethaf 23 Awst.
Mae’r sengl yn damaid i aros pryd nes eu halbwm cyntaf, Sbwriel Gwyn, sydd allan ddiwedd mis Medi.
Recordiau Libertino sy’n rhyddhau’r cynnyrch newydd, ac yn ôl y label mae’r sengl yn ‘tynnu’r gwrandäwr i mewn gyda’u sŵn cathartig, prysur a hyfryd’.
“Mae’n gân am rethreg gwag a sut gall rhwbeth sy’n nonsens pur swnio’n ddwys ac ystyrlon” eglura Dewi Jones, basydd Los Blancos wrth drafod y sengl.
“Nid yw’n pryfocio crefydd, mae’n gallu cyfeirio at ddiwylliant poblogaidd neu wleidyddiaeth fel ‘brexit means brexit’ ayyb neu ddyfyniadau cringey ar gyfryngau cymdeithasol”.
Record: Bitw – Bitw
Ydy, mae albwm cyntaf Bitw allan ers mis Mehefin, ond newyddion cyffrous yr wythnos diwethaf ydy bod y casgliad bellach ar gael ar fformat newydd.
Mae llawer o artistiaid yn ddigon bodlon i ryddhau eu cynnyrch yn ddigidol yn unig y dyddiau yma, ond tydi hynny ddim yn ddigon i Bitw! Yn wir, mae’n ymddangos bod prosiect diweddaraf Gruff ab Arwel yn ceisio manteisio ar bob fformat posib gyda’r record sy’n rhannu enw’r band!
Rhyddhawyd yr albwm yn wreiddiol yn ddigidol ac ar CD, am mae fersiwn feinyl nifer cyfyngedig hefyd wedi’i ryddhau ers hynny gan label Joyful Noise Records. Mae copïau’r record feinyl wedi gwerthu i gyd yn ôl gwefan Joyful Noise, er bod Bandcamp Bitw yn dal i gymryd archebion yn ôl pob golwg.
Y newyddion da pellach i’r puryddion neu ffans o bethau retro felly ydy bod y casgliad bellach ar gael ar gyfrwng casét!
Nifer cyfyngedig o gopïau o’r fersiwn casét sydd ar gael a hynny ar dâp lliw melyn hyfryd – bachwch nhw o Bandcamp Bitw cyn iddyn nhw fynd!
Artist: magi.
Enw newydd, ond wyneb a llais cyfarwydd iawn sy’n rhyddhau ei sengl newydd heddiw.
magi. ydy enw llwyfan / perfformiwr newydd Magi Tudur, sydd wedi bod yn perfformio ar lwyfannau Cymru ers peth amser.
Er dal ddim ond yn 19 oed, fe ryddhaodd Magi ei EP cyntaf, Gan Bwyll, ar label JigCal dair blynedd yn ôl. Ond roedd hi’n gyfarwydd i ni yma yn Y Selar ers peth amser cyn hynny, yn aelod o’r grŵp Y Galw, sef un o grwpiau cynllun Clwb Senglau’r Selar yn 2015.
Mae wedi cymryd saib fach dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ond nawr mae nôl gyda’i brand newydd, a sŵn newydd, gyda’r sengl ‘Blaguro’.
Cyhoeddodd Magi ei bod yn newid ei henw perfformio i jyst ‘magi.’ rhyw ddwy flynedd yn ôl gan bod pobl yn dechrau drysu rhyngddi hi â’r gantores ifanc arall, Mabli Tudur. Gyda’r enw newydd daw sŵn newydd hefyd ac mae ‘Blaguro’ yn sengl newydd seicadelig a hudolus.
Mae magi. wedi bod yn brysur yn creu cerddoriaeth newydd dros y flwyddyn ddiwethaf, a nawr yn barod i ryddhau ei sengl gyntaf ar label newydd Ski Whiff. Cynhyrchwyd y trac gan Ceiri Tomos, sy’n gyfarwydd fel aelod o Ffracas a Pys Melyn – mae Magi wedi bod yn perfformio gyda’r ddau grŵp yn eu gigs byw diweddar hefyd.
Yn ôl magi. mae sŵn ei chynnyrch diweddaraf yn reit wahanol i’w cherddoriaeth blaenorol – yn fwy seicadelig, ac yn defnyddio offerynnau llai gwerinol na’r EP cyntaf. Meddai ei bod yn edrych ymlaen at ryddhau’r sengl newydd, ac at gyfansoddi mwy o hyn ymlaen.
Mae’r sengl allan ar yr holl lwyfannau digidol arferol heddiw.
Bach o nostalgia i chi, dyma fideo Y Selar o Magi Tudur yn perfformio ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd Fflint 2016:
Un peth arall…: Lansio Lŵp
Wythnos diwethaf fe lansiodd S4C eu cyfres a brand cerddoriaeth gyfoes newydd, sef Lŵp.
Darlledwyd y rhaglen gyntaf ar nos Iau 22 Awst, gan fwrw golwg nôl ar wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst ddechrau’r mis.
Bwriad y gyfres newydd yn ôl S4C ydy rhoi llwyfan ar y sgrin fach i ddiwylliant cyfoes amrywiol, ond perfformiadau cerddorol fydd calon cynnwys Lŵp yn ôl y sianel.
Roedd tipyn o amrywiaeth ar y rhaglen gyntaf gyda deunydd o gigs byw Mr yn Gig Cymdeithas yr Iaith ar nos Sadwrn olaf yr Eisteddfod, ac Alffa ym Maes B ar y nos Fercher. Roedd caneuon ar y rhaglen gan Colorama ac Adwaith hefyd, a thipyn o sgyrsiau ac eitemau celf gwahanol wedi eu plethu mewn rhwng y gerddoriaeth.
Mae modd rhaglen gyntaf Lŵp ar alw nawr ar S4C Clic, BBC iPlayer a llwyfannau eraill Cynhyrchiad Antena ar gyfer S4C.