Pump i’r Penwythnos – 5 Gorffennaf 2019

Gig: Candelas, Gwilym, Y Niwl, Plu, Bwca, Gwilym Bowen Rhys, Roughion a mwy – Gŵyl Aber, Clwb Rygbi Aberystwyth – 05/07/19

Gan fod Y Selar yn helpu trefnu Gŵyl Aber heddiw, mae’n rhaid i ni fod yn blwyfol a dewis hwn fel ein prif argymhelliad o’r penwythnos! Dyma’r tro cyntaf i’r ŵyl yma gael ei chynnal, ac mae’n ymdrech i godi arian at yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron blwyddyn nesaf, ac i weld oes galw am ŵyl flynyddol o’r fath yn Aber.

Mae tipyn i lein-yp, gyda dau fand mwyaf poblogaidd y sin, Candelas a Gwilym yn cloi’r arlwy ar y Prif Lwyfan. Cyn hynny mae cyfle i weld Y Niwl, Roughion, Plu, Gwilym Bowen Rhys, Bwca a’r band ukelele lleol, Iwcadwli. Bydd cyfle cyntaf hefyd i weld dau fand newydd sbon sydd wedi ffurfio’n arbennig ar gyfer yr ŵyl gydag aelodau o Ysgol Penweddig ac Ysgol Aberaeron. Mynd i fod yn wych.

Cwpl o wyliau bach eraill yn digwydd penwythnos yma hefyd…

Yn gyntaf, Car Gwyllt ym Mlaenau Ffestiniog heno a nos fory. Llwyth o artistiaid yn perfformio, gormod i’w rhestru ond rhai uchafbwyntiau fydd Gai Toms, Ffracas, Pasta Hull, 3 Hwr Doeth ac Estella.

Yna yn Ne Ceredigion mae Gŵyl Gwenlli yn digwydd am y tro cyntaf erioed ger Synod Inn. Mellt, Mari Mathias a Jess ydy prif enwau heno, ac mae llwyth o artistiaid dydd Sadwrn gan gynnwys Papur Wal, Ail Symudiad, Gwilym, Alffa, Ani Glass a H a’r Band.

Gŵyl arall eto fyth yn y gogledd ddydd Sadwrn, sef Gŵyl Bragdy Lleu ger Penygroes – The Routines, Phil Gas a’r Band a Dylan Wyn Evans ydy’r enwau sy’n sefyll allan.

I symud i ffwrdd o wyliau, mae ‘Noson afiach allan yn Pesda’ yn Neuadd Ogwen heno gyda Killdren, 3 Hwr Doeth a Radio Rhydd.

Ac yn olaf, mae cyfle i ddal Breichiau Hir yn 10 Feet Tall, Caerdydd nos fory.

Cân: ‘Y Boddi’ – Y Cyrff

Un o straeon newyddion mawr yr wythnos ydy’r ffaith bod Recordiau I Ka Ching yn ail-ryddhau EP anhygoel Y Cyrff, Yr Atgyfodi, erbyn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Rhyddhawyd yr EP 5 trac yn wreiddiol union 30 mlynedd yn ôl yn Eisteddfod Llanrwst 1989. Gyda’r Eisteddfod wrth gwrs yn dychwelyd i Lanrwst eleni, roedd yn gyfle perffaith i’r label ail-ryddhau’r glasur yma. A’r newyddion gwell bydd? Mae’n cael ei ryddhau ar ffurf record feinyl!

Cân enwocaf y casgliad ydy cân enwocaf Y Cyrff, ac anthem answyddogol Cymru – ‘Cymru, Lloegr a Llanrwst’. Dyma ydy anthem swyddogol Llanrwst gyda llaw – mae’n siŵr o gael ei chlywed a’i chanu degau o weithiau yn ystod wythnos gyntaf mis Awst!

Er hynny, mae pedair cân arall yr EP yn ganeuon gwych hefyd – ‘Y Boddi’, ‘Cofia Fi’n Ddiolchgar’, ‘Cerdda Efo Fi Mewn Distawrwydd’ ac ‘Weithiau/Anadl’.

Rydan ni wedi dewis ‘Y Boddi’ fel ein cân ar gyfer y penwythnos, nid yn unig gan ei bod yn diwn a hanner, ond hefyd oherwydd y fideo hynod gofiadwy a ffilmiwyd ym mhwll nofio Llanrwst ar gyfer cyfres Fideo 9. Gwychder.

 

Record: Joia – Carwyn Ellis & Rio ’18

Mae albwm prosiect diweddaraf y cerddor amryddawn Carwyn Ellis, ‘Joia’, allan ar label Banana and Louie Records ers dydd Gwener diwethaf, 28 Mehefin.

Mae Carwyn yn fwyaf cyfarwydd i ni fel yr enigma cerddorol sy’n gyfrifol am y grŵp gwych Colorama.  Mae hefyd yn gerddor sesiwn gyda’r band enwog The Pretenders, a chanwr enwog y grŵp hwnnw, Chrissie Hynde, awgrymodd y dylai wneud albwm Lladin-Americanaidd Cymraeg ar ôl sylwi ar yr holl recordiau roedd yn eu prynu wrth deithio yn Ne America.

Cyflwynodd Hynde ef i’r cynhyrchydd amlwg o Frasl, Kassin, a gwahoddodd hwnnw Carwyn draw i recordio yn Rio i recordio albwm gyda rhai o gerddorion gorau’r ddinas.

Dogfennwyd y broses recordio mewn rhaglen ar S4C yn gynharach eleni, wedi’i gyfarwyddo gan Griff Lynch. Mae modd gwylio’r ffilm ddogfen ar iPlayer y BBC ar hyn o bryd.

Rydan ni wedi cael blas o’r casgliad newydd gyda’r senglau ‘Duwies y Dre’ a ‘Tywydd Hufen Ia’, ond o’r diwedd mae’r albwm allan yn swyddogol.

Dyma’r hafaidd hyfryd ‘Duwies y Dre’:

 

Artist: Sywel Nyw

Efallai bydd y rhai craff yn eich mysg yn gallu dehongli pwy ydy’r artist newydd Sywel Nyw heb i ni orfod egluro!

Mae’r enw’n un cyfarwydd petai chi’n ail-drefnu rhywfaint ar y llythrennau – Lewys Wyn.

Mae Lewys yn fwyaf adnabyddus i ni’n bennaf fel prif ganwr Yr Eira ond mae sengl gyntaf ei brosiect newydd allan ers dydd Gwener diwethaf, 28 Mehefin.

Mae Lewys wedi mentro i gyfeiriad cerddorol newydd, ac yn benodol i arbrofi gydag arddull pop electroneg. Ac mae’n paratoi i ryddhau cyfres o draciau newydd dan yr enw Sywel Nyw, gan ddechrau gyda’r sengl ‘Jumping Fences’ ddiwedd mis Gorffennaf.

Daw Lewys yn wreiddiol o Ogledd Cymru a daeth i’r amlwg yn gyntaf fel aelod o’r grŵp o Fangor, Yr Ayes, cyn mynd ati i ffurfio’r band poblogaidd Yr Eira yn fuan wedyn.

Mae bellach wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd ac wedi bod yn arbrofi gyda’r cynhyrchydd amlwg Frank Naughton. Mae’r traciau wedi eu cymysgu gan Tom Loffman.

Cafodd y trac ei chwarae gyntaf ar wefan Attwood Magazine wythnos diwethaf, ynghyd ag ar raglen BBC Radio Wales Janice Long.

Dyma hi i chi gael blas:

 

Un peth arall…:  Podlediad #13 Y Sôn

Mae criw blog cerddoriaeth Sôn am Sîn wedi cyhoeddi eu podlediad diweddaraf ar-lein, ac ar y prif lwyfannau podledu.

Dyma’r trydydd podlediad ar ddeg i’r ddeuawd Chris Roberts a Gethin Griffiths gyflwyno, a’r chweched o’r flwyddyn eleni wrth iddyn nhw gadw at eu haddewid o recordio un ym mhob mis yn ystod 2019.

Yn ôl yr arfer mae’r ddau’n trafod amrywiaeth o bethau cerddorol, ac yn adolygu rhai o’r prif senglau Cymraeg cyfoes sydd wedi eu rhyddhau dros y misoedd diwethaf gan gynnwys ‘Twti Ffrwti’ gan Kim Hon, ‘Dywarchen’ gan Omaloma a ‘Bywydd Llonydd’ gan Pys Melyn.

Maent hefyd yn cael trafodaeth ddifyr ynglŷn â pham bod cyn lleied o albyms ac EPs yn cael eu rhyddhau yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn, gydag artistiaid Cymraeg yn tueddu i ryddhau cynnyrch mwy swmpus erbyn yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Nadolig.

Yn ogystal â thrafod y gerddoriaeth mae’r ddau wedi bod yn gwrando arno’n ddiweddar, maent hefyd yn sôn am ganeuon sy’n eu hatgoffa o lefydd ac achlysuron arbennig.