Pump i’r Penwythnos 6 Rhagfyr 2019

Gig: 3 Hwr Doeth, Kim Hon, Dienw – Clwb Ifor Bach, Caerdydd – 06/12/19

Job anodd penderfynu ar ein prif ddewis o gig penwythnos yma gan fod tipyn o gigs da iawn yr olwg ar y gweill.

Mae Gruff Rhys yn dechrau ei gyfres o gigs Cymreig i hyrwyddo Pang! gan ddechrau yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth heno. Mae’r daith yn parhau nos fory yn Neuadd y Dref Llangollen.

Mae’r gyntaf o gwpled o gigs gan Yr Ods yng Nghaernarfon nos fory. Gorsaf Reilffordd Caernarfon ydy’r lleoliad ar gyfer gig hyrwyddo cyntaf yr albwm cysyniadol newydd, Iaith y Nefoedd.

Taith sy’n parhau ydy taith sioe ORIG! gan Gai Toms a’r Banditos. Yn wir, efallai mai heno fydd noson fwyaf cofiadwy’r daith gan eu bod nhw’n ymweld â phentref bach Ysbyty Ifan, sef man geni’r cawr Orig Williams a thestun yr albwm.

Mae cwpl o heolion wyth y sin yn gigio dros y penwythnos hefyd. Mae Geraint Jarman yn Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug heno, cyn symud ymlaen i berfformio yng Nghell B, Blaenau Ffestiniog nos fory.

Gig mawr yn Neuadd y Farchnad, Caernarfon heno hefyd yng nghwmni Bryn Fôn a Phil Gas a’r Band.

Ond, ein prif ddewis ni ar gyfer y penwythnos ydy lansiad swyddogol ail albwm yr anhygoel 3 Hwr Doeth yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd heno. Bydd Kim Hon a Dienw yn cefnogi – clamp o lein-yp, a garantîd o glamp o noson gofiadwy.

Cân: ‘Straeon Byrion’ – Yr Eira

Bu’n gyfnod rhy hir ers i ni glywed unrhyw beth newydd gan Yr Eira. Er eu bod nhw wedi gigio’n achlysurol, cymharol dawel fu’r grŵp ers ddeunaw mis bellach.

Ond, y newyddion da yr wythnos yma ydy bod eu sengl newydd, ‘Straeon Byrion’, allan ar label Recordiau I KA CHING heddiw.

Roedd Y Selar yn falch iawn o gynnig y cyfle cyntaf i chi glywed y trac ddiwrnod yn gynnar ddoe, a theg dweud ei bod yn dipyn o diwn. Er hynny, mae’r sŵn yn amlwg wedi datblygu rhywfaint o albwm cyntaf Yr Eira, Toddi, a ryddhawyd reit nôl yng Ngorffennaf 2017 credwch neu beidio!

Yn sicr mae’n argoeli’n dda ar gyfer yr albwm newydd sydd ar y gweill – yr addewid ydy am fwy o’r gitârs jangli rydan ni’n gyfarwydd â chlywed gan Yr Eira, ond wedi’i gymysgu ag elfennau mwy electroneg.

Mae fideo newydd  i’r gân wedi’i gyfarwyddo gan Andy Pritchard ar gyfer cyfres Lŵp, S4C, wedi’i gyhoeddi heddiw hefyd.

 

Record: Ar Ben Fy Hun – Ffion Evans

Mae’r gantores ifanc o Geredigion, Ffion Evans, yn rhyddhau ei EP cyntaf heddiw.

Enw’r casgliad byr o ganeuon ydy Ar Ben Fy Hun, a label Recordiau Bwca sy’n gyfrifol am ryddhau.

Yn ôl y label, mae’r EP newydd yn llawn o ganeuon personol a caiff Ffion ei hysbrydoli gan natur, ac mae’n defnyddio delweddau amgylcheddol mewn sawl cân.

Mae Ffion hefyd yn aelod o’r grŵp o’r canolbarth, Bwca, sydd wedi bod yn brysur yn recordio eu halbwm cyntaf dros y misoedd diwethaf.

Chwech o draciau sydd ar yr EP, gan gynnwys un Saesneg o’r enw ‘On My Own’ –  cyfieithiad o deitl y casgliad wrth gwrs.

Mae’r caneuon wedi eu recordio yn Stiwdio Bing ym Mro Ddyfi gyda Rhidian Meilir, ac mae’r gwaith celf wedi’i greu gan Sara Lleucu sy’n ddylunydd talentog ac yn un o ffrindiau gorau Ffion.

Dyma ‘Fi Moen Bod yn Fi’ o’r EP:

Artist: Chroma

Ydyn, mae’r band roc o Bontypridd i’w gweld yn mynd o nerth i nerth ar hyn o bryd, ac mae sengl newydd sbon danlli allan ganddyn nhw heddiw.

Yn ôl yr adroddiadau mae Y Selar wedi derbyn, maen nhw wedi chwalu eu gigs yng Nghaerdydd a Llanelli dros y bythefnos ddiwethaf, a heb os nhw ydy un o fandiau byw mwyaf trawiadol Cymru ar hyn o bryd.

Dydyn nhw ddim yn rhy shabby ar record chwaith, ac mae’r newyddion am sengl Gymraeg newydd yn mynd i fod wrth fodd y ffans.

‘Tair Ferch Doeth’ ydy enw’r trac newydd a ddechreuodd fel cân yn trafod sut roedd Katie o’r band yn gweld eisiau ei chyn-gariad yn Rhydychen. Ond, ar ôl i wahaniaethau mawr rhwng y ddau ddod â’r berthynas y ben, aeth y gantores ati i ysgrifennu am sut effeithiodd y berthynas ar ei hunanhyder a’i theimladau at gymdeithas ac academiaeth.

Mae’r gân yn archwilio naratif dau berson gwahanol iawn i’w gilydd yn cerdded trwy ddinas sy’n llawn cestyll tywod, yn ofni bod popeth am gwympo arnynt.

“Roeddwn i’n awyddus i’r gân fynegi’r syniad bod strwythurau cymdeithasol yn gwneud y byd yn le peryg i fenywod” meddai Katie.

“…boed hynny mewn perthynas, yn y gwaith neu yn y byd academaidd. Mae’r teitl yn cyfeirio at y ffaith bod rhaid i fenywod fyw mewn ‘byd dyn’ o oedran ifanc iawn.”

Mae’r sengl allan yn ddigidol ar y llwyfannau arferol – Recordiau Don’t Talk Over Me sy’n rhyddhau.

Dyma nhw’n chwarae’r gân yn fyw yn Ffiliffest llynedd:

 

Un peth arall…: Ffilm ddogfen Pang!

Bosib y byddwch chi wedi colli’r ffilm ddogfen fer yma a gyhoeddwyd gan Lŵp rhyw bythefnos nôl…wel, mi wnaethon ni beth bynnag!

Wrth i Gruff ddechrau ar ei daith Gymreig i hyrwyddo’r albwm Pang! yn Aberystwyth heno, mae’n teimlo’n amserol i ail-gyflwyno’r ffilm fach hyfryd yma i chi.

Mae creu ffilmiau i gyd-fynd â’i recordiau hir bron wedi dod yn ail natur i Gruff Rhys, a’r un criw sy’n gyfrifol am y ffilm fer yma, ag oedd yn gyfrifol am ffilmiau hirach American Interior a Seperado. Y cyfarwyddwr unwaith eto ydy Dylan Goch.

Mae albwm diweddaraf Gruff yn ei weld yn cyd-weithio â’r cynhyrchydd Muzi (Muziwakhe Mazibuko), o Johannesburg, De Affrica. Mae’r ffilm ddogfen yn dod a’r ddau ynghyd unwaith eto gan egluro sut datblygodd y berthynas, ac i sgwrsio am y broses o greu’r albwm.

Yr hyn sy’n cael ei ddal yn y ffilm yn fwy na dim ydy perthynas hyfryd y ddau a’i gilydd – gwerth 11 munud o’ch amser yn sicr!