Pump i’r Penwythnos – 7 Mehefin 2019

Gig: Gareth Bonello, Georgia Ruth, Toby Hay – Gwener 7 Mehefin – Pontio, Bangor

Ar ôl wythnos lawn dop o gerddoriaeth yng Nghaerdydd i gyd-fynd ag Eisteddfod yr Urdd, a phenwythnos gŵyl y banc cyn hynny, mae hi ychydig yn dawelach o rai gigs penwythnos yma, er fod ambell beth difyr ar y gweill.

Mae pob penwythnos yn brysur i’r Welsh Whisperer ac mae ganddo ddau gig penwythnos yma eto – y cyntaf yng Nghlwb Criced a Bowlio Bethesda heno, a’r ail yn Sioe Dyffryn Ogwen bnawn fory.

Gig mwy hamddenol ydy’n prif argymhelliad yr wythnos hon. Rydan ni’n hoff iawn o Gareth Bonello/The Gentle Good. Rydan ni’n hoff iawn o Georgia Ruth Williams hefyd. Ac mae cyfle i weld y ddau, ynghyd â’r cerddor talentog arall Toby Hay, yng nghanolfan Pontio, Bangor heno. Ac os ydach chi’n nes i’r canolbarth, yna mae ail gyfle i weld y triawd yn canu am, yng ngeiriau Gareth, ‘tir a môr, adar a phobl’ yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth nos Sadwrn.

Gig mawr ar y Maes ym Mhwllheli ddydd Sadwrn hefyd i gydfynd â Gŵyl Fwyd Pwllheli – Patrobas, Bwncath, John ac Alun a Phil Gas a’r Band…yn lleoliad unigryw siop Spar ar y Maes!

Ac mae tymor y sioeau amaeth wedi dechrau o ddifrif, a gigs yn dod yn fwyfwy cyffredin fel rhan o’r rhain. Mae Sioe Aberystwyth ddydd Sadwrn, a bydd Bryn Fôn yn perfformio yna gyda’r hwyr – lwyth o docynnau wedi gwerthu’n barod yn ôl pob tebyg.

 

Cân: ‘\Neidia/’ – Gwilym

Band y foment ar hyn o bryd heb os ydy Gwilym ac roedd eu sengl ddiweddaraf ‘\Neidia/’ allan ar lwyfannau digidol ddydd Gwener diwethaf.

Roedd yn wythnos hynod o brysur i’r grŵp ifanc wrth iddynt baratoi i lansio’r sengl gyda saith gig yn Eisteddfod yr Urdd, a slot gyda’r hwyr yn Rali CffI Ceredigion nos Sadwrn. Mae’n siŵr taw uchafbwynt yr wythnos iddynt oedd y gig ar Lwyfan Perfformio Eisteddfod yr Urdd yng nghysgod y Cynulliad nos Wener ac roedd ‘\Neidia/’ yn ffefryn fawr ymysg y dorf – cymaint felly nes iddyn nhw ddychwelyd i’r llwyfan i chwarae’r sengl newydd eilwaith fel encore.

Mae ganddyn nhw haf prysur o’u blaenau hefyd gyda llwyth o gigs wedi’u cadarnhau gan gynnwys Gig Nos Ffiliffest ar nos Wener 28 Mehefin a Gŵyl Canol Dre yng Nghaerfyrddin ar ddydd Sadwrn 13 Gorffennaf. Wythnos yma hefyd maen nhw wedi eu cyhoeddi fel un o artistiaid yr ŵyl newydd yn Aberystwyth ar ddydd Gwener 5 Gorffennaf, Gŵyl Aber.

O sgwrsio gyda’r grŵp wythnos diwethaf, maen nhw’n teimlo fod ‘\Neidia/’ yn dynodi newid yn sŵn y band  ac mae’n amlwg bod y sŵn hwnnw’n plesio gan i’r gân groesi 1000 ffrwd Spotify gwta 48 awr ar ôl ei rhyddhau.

Gallwch wylio fideo byw (efo safon sain reit wael!) ohonyn nhw’n perfformio’r sengl newydd ar y Llwyfan Perfformio nos Wener ar dudalen Facebook Y Selar, neu dyma ragflas o’r trac isod.

 

 

Record: Arenig – Gwilym Bowen Rhys

Mae’n teimlo fel oes ers i ni ddechrau sôn am albwm diweddaraf Gwilym Bowen Rhys…yn bennaf gan ei fod wedi cynnal cwpl o gigs lansio ar gyfer y casgliad dros fis yn ôl!

Ond o’r diwedd, mae dyddiad rhyddhau swyddogol Arenig wedi cyrraedd ar 1 Mehefin.

Dyma drydydd albwm unigol Gwilym Bowen Rhys, ac mae’n cynnwys caneuon gwerin gwreiddiol a thraddodiadol – rhywbeth sy’n nodwedd o’r hyn mae Gwil yn ei wneud ers mynd ar ei liwt ei hun wrth gwrs.

Roedd Y Selar yn ddigon ffodus i fachu Gwil am air ar ôl ei sef yn y Tipi yn Eisteddfod yr Urdd wythnos diwethaf, a dysgu bach mwy am yr albwm newydd.

 

Artist: Sgota Noda

Bnawn Iau diwethaf ar Lwyfan Perfformio Eisteddfod yr Urdd Bae Caerdydd roedd ecsgliwsig byd eang, sef ymddangosiad cyntaf y grŵp Sgota Noda.

Pwy ydy Sgota Noda dwi’n clywed chi’n holi? Wel, neb llai na grŵp buddugol cyfres deledu Pwy Geith y Gig? ar Stwnsh eleni. Dyma’r drydedd gyfres Pwy Geith y Gig? i’w darlledu ar S4C, ac os nad ydach chi’n gyfafarwydd â hi, y syniad ydy bod y cerddorion profiadaol sy’n fentoriaid – Osian Williams, Alys Williams ac Yws Gwynedd eleni – yn sgowtio rhai o gerddorion ifanc gorau ysgolion Cymru er mwyn creu siwpyr-grŵp.

Swnio’n naff? Wel, mae’r dystiolaeth o blaid llwyddiant y gyfres gan fod cerddorion band y gyfres gyntaf yn cynnwys Lewys Meredydd, Ioan a Iestyn o grŵp Lewys, a Jac o Ffracas.

Bydd cyfle i weld pennod olaf y gyfres, a’r uchafbwynt sef y gig ar faes Eisteddfod yr Urdd, am 17:35 ar S4C heno (Gwener 7 Mahefin).

Dyma glyweliad Jac o 2016!

 

Un peth arall…: Band Pres Llareggub yn New Orleans

Nôl ym mis Ebrill eleni teithiodd Band Pres Llareggub i’r Unol Daleithiau i berfformio yng ngŵyl enwog y French Quartet Festival yn New Orleans.

Mae’r ddinas yn Luisiana yn enwog iawn am ei draddodiad jazz a blŵs ac mae wedi bod yn uchelgais hirdymor i’r grŵp o Gymru berfformio yno. Nhw oedd yr unig grŵp o Brydain i’w gwahodd i berfformio yno eleni.

Daeth i’r amlwg ar y pryd y byddai S4C yn dilyn taith Band Pres Llareggub i’r ŵyl, a daeth y cyfle i weld y rhaglen ar Sbrec nos Fercher. Bydd cyfle arall i weld y rhaglen awr o hyd am 21:00 nos Sadwrn a hefyd am 15:05 bnawn Llun (10 Mehefin).

Dyma ragflas fach o’r rhaglen: