A hithau’n Ddydd Miwsig Cymru heddiw (rhag ofn bod chi heb glywed!) does dim prinder o bethau cerddorol yn digwydd penwythnos yma…
Gig: Mr, Omaloma, Bitw – Clwb Llanrwst – 09/02/19
Llwwwwwyth o gigs heddiw a fory wrth nodi Dydd Miwsig Cymru. Amhosib sôn amdanyn nhw i gyd, ond gallwch weld rhestr gynhwysfawr ar galendr gigs gwych Y Selar. Dyma rai sydd wedi dal ein llygad isod.
Heddiw, dydd Gwener i ddechrau:
Siop Awen Meirion yn Y Bala ydy un o’n hoff siopau yn y byd i gyd yn grwn ac mae’r grŵp mwyaf o ddod o ardal Y Bala erioed, Candelas, yn perfformio yn y siop ddechrau’r prynhawn heddiw, rhwng 13:00 a 14:00. Y si ydy bod rhyw 10 tocyn penwythnos Gwobrau’r Selar ar ôl yn y siop hefyd – ma rhain fel aur!!
Gig arall ddechrau’r prynhawn ydy hwnnw yn HQ newydd S4C yng Nghaerfyrddin lle bydd Fflur Dafydd a’r Barf yn perfformio, yn ogystal â chyfle i wrando ar sgwrs gyda Gruff o Recordiau Libertino.
Mae gan Twrw yng Nghlwb Ifor Bach glincar o gig heno – leinyp gorau’r flwyddyn hyd yma o bosib, gyda Chroma, Gwilym, Ani Glass, Rhys Dafis, DJ Dilys a DJ Garmon.
Heb anghofio am y gogs, mae Al Lewis a Bwncath yn perfformio yng Nghlwb Canol Dre yn y diweddaraf o gigs Pedwar a Chwech. Ond, peidiwch troi fyny heb docyn gan fod pob un wedi gwerthu ymlaen llaw.
Ac ymlaen i ddydd Sadwrn:
Leinyp arall ardderchog y penwythnos ydy hwnnw yn Nhŷ Pawb, Wrecsam nos fory gyda HMS Morris, Seazoo, Ani Glass a Blind Wilkie McEnroe – gwych iawn yn wir.
Er gwaetha’r holl leinyps gwych eraill dros y penwythnos, mae’n amhosib i ni anwybyddu’r noson yn Llanrwst nos Sadwrn pan ddaw i ddewis ein hoff gig o’r penwythnos. Gig cyntaf erioed Mr, prosiect unigol Mark Roberts, a hynny nôl adre yn y Clwb Legion yn Llanrwst. Cefnogaeth dda ganddo fo hefyd ar ffurf Bitw ac Omaloma.
Cân: ‘Womanby’ – Hyll
Tipyn o gynnyrch newydd allan heddiw hefyd, gan gynnwys sengl ddiweddaraf y grŵp o Gaerdydd, Hyll.
Ac mae testun y sengl yn amserol iawn o ystyried y drafodaeth ddiweddar ynglŷn â dyfodol Caerdydd fel ‘dinas cerddoriaeth’ yn dilyn newyddion am leoliadau gigs amlwg yn cau eu drysau.
Teyrnged ydy ‘Womanby’ i stryd gerddoriaeth enwocaf Caerdydd, sef Stryd y Fuwch Goch (i ddefnyddio’r enw Cymraeg am Womanby Street). Mae’r stryd wrth gwrs yn gartref i Clwb Ifor Bach, ynghyd â lleoliadiadau The Moon a chlwb Fuel. Roedd Dempseys (Elevens erbyn hyn) hefyd yn arfer bod yn leoliad gigs amlwg.
Mae’r diwn newydd yn llawn o’r asbri a hwyl sy’n gyfarwydd yng ngherddoriaeth Hyll wrth iddynt adrodd hanesion fydd yn gyfarwydd i unrhyw sydd wedi ymweld â’r stryd enwog ar noson allan.
Does dim modd gosod y trac isod, ond mae modd i chi wrando ar y sengl ar dudalen blog gwefan Clwb Ifor Bach.
Record: Diwedd y Byd – I Fight Lions
Mae’r nifer o EPs sy’n cael eu rhyddhau wedi lleihau a lleihau’n raddol dros y blynyddoedd diwethaf wrth i artistiaid droi at ganolbwyntio’n fwyfwy ar ryddhau senglau’n ddigidol neu albyms ar ffurf caled.
Er ei bod yn ymddangos fod oes yr EP yn dirwyn i ben, mae ambell EP Cymraeg yn dal i ymddangos, ac un band sy’n mynd yn groes i’r graen trwy ryddhau EP newydd heddiw ydy I Fight Lions.
Ac maen nhw hefyd yn mynd yn groes i ddelwedd roc arferol y grŵp trwy ryddhau casgliad byr o ganeuon acwstig.
Er y byddan nhw’n swnio ychydig yn wahanol, bydd caneuon yr EP newydd yn gyfarwydd i unrhyw un sydd wedi bod i gigs diweddar I Fight Lions, neu wrando ar eu halbwm diwethaf, Be Sy’n Wir?, a ryddhawyd llynedd. Fersiynau acwstig o dair o ganeuon yr albwm hwnnw sydd ar y casgliad byr newydd, sef ‘Adweithiau’, ‘Tynnu ar y Tennyn’ a ‘Diwedd y Byd’.
Mae’n debyg mai set acwstig ganddyn nhw yng Nghaffi Maes B ar faes Steddfod Caerdydd llynedd oedd yr ysgogiad i I Fight Lions fynd ati i recordio’r fersiynau newydd o’r caneuon, ac yn sicr mae’n nhw’n wahanol iawn i’r fersiynau gwreiddiol.
Dyma fersiwn wreiddiol ‘Tynni ar y Tennyn’ o’r albwm Be Sy’n Wir?:
Artist: Catatonia
Gydag wythnos i fynd nes penwythnos Gwobrau’r Selar, rydan ni’n dal i nodi cyfraniad enillwyr ein gwobr ‘Cyfraniad Arbennig’ eleni, Mark Roberts a Paul Jones.
Rydan ni eisoes wedi rhoi sylw i waith Y Cyrff ac Y Ffyrc, oedd yn ddau grŵp hynod wych y bu Mark a Paul yn aelodau ohonynt. Ond wrth gwrs, y grŵp a ddaeth ag enwogrwydd byd eang i’r ddau oedd Catatonia.
Mae pawb yn gwbod fod Catatonia yn ‘fawr’ yn ystod blynyddoedd Cŵl Cymru, ond a hwythau wedi chwalu ers deunaw mlynedd bellach, maen hawdd anghofio jyst pa mor anferthol o fawr oedden nhw!
Mae’r fideo yma ohonyn nhw’n perfformio ‘Road Rage’ yn Glastonbury 21 mlynedd nôl yn gosod rhyw fath o gyd-destun i chi. Neu beth am y ffilm yma’n dangos eu cyngerdd nhw ym Mharc Margam 20 mlynedd nôl ym 1999 – ydy, mae’r dorf anferth yn canu pob gair efo nhw. Dyma ran 2, a rhan 3.
Eu hail albwm, International Velvet, oedd yr un fawr i Catatonia – ‘tripyl platinum’ yn y DU (platium = gwerthu 300,000 o recordiau, felly o leiaf 900,000 wedi gwerthu) heb sôn am werthiant mewn rhannau eraill o’r byd. Aeth y record i rif 1 siart albyms Prydain, a hefyd yr albwm a ddilynodd Equally Cursed and Blessed.
Er hynny, ac er na gafodd yr un math o sylw o bell ffordd, byddai llawer yn dadlau fod eu halbwm cyntaf, Way Beyond Blue yn well record, ac efallai mai trasiedi mawr hanes y grŵp oedd iddyn nhw chwalu cyn gallu hyrwyddo eu record olaf, Paper Scissors Stone, yn iawn – trystiwch ni, mae hon yn glamp o record dda, chwiliwch am gopi.
Mae Way Beyond Blue yn cynnwys trac bonws cudd ar ddiwedd yr albwm, trac Cymraeg gwych o’r enw ‘Gyda Gwên’. Roedd y trac wedi ymddangos cyn hynny dan yr enw ‘Gwên’ ar gasgliad aml-gyfrannog Ap Elvis a ryddhawyd gan Ankst ym 1993, a hefyd ar yr EP ‘For Tinkerbell’ a ryddhawyd ar is-label Sain, Crai, yn yr un flwyddyn.
A diolch i waith gwych Ffarout, mae modd gweld y fideo isod o gyfnod cyfres Fideo 9 ar YouTube!
Un peth arall…: Enillydd gwobr ‘Fideo Cerddoriaeth Gorau’
Wythnos diwethaf, fe gyhoeddwyd mai gwaith celf albwm cyntaf Gwilym, Sugno Gola, oedd enillydd gwobr ‘Gwaith Celf Gorau’ Gwobrau’r Selar eleni.
Yr wythnos hon, rydan ni wedi cyhoeddi ar y cyd â Hansh fod Gwilym wedi cipio un arall o Wobrau’r Selar eleni, sef Fideo Gorau.
Roedd fideos dwy o ganeuon Gwilym, ‘Cwîn’ a ‘Cysgod’ wedi cyrraedd rhestr fer y categori, ynghyd a fideo ‘Gwres’ gan Lewys.
Ond, cyhoeddodd Gareth yr Epa yn ecsgliwsif nod Fercher mai fideo ‘Cwîn’, sydd wedi gyfarwyddo gan Aled Rhys Jones, oedd prif ddewis darllenwyr Y Selar eleni. Dyma fo’n torri’r newyddion i ganwr Gwilym, Ifan Pritchard:
Ac enillydd gwobr FIDEO CERDDORIAETH GORAU 2018 Gwobrau'r Selar ydi… 🥁🥁📞
Posted by Hansh on Wednesday, 6 February 2019
Llongyfarchiadau mawr i Gwilym, a cofiwch eu bod nhw’n perfformio fel rhan o leinyp gwych Gwobrau’r Selar yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth nos Sadwrn nesaf.
Yn y cyfamser, mwynhewch fideo ‘Cwîn’…