Gig: Mr, Los Blancos, SYBS – Clwb Ifor Bach, Caerdydd – 08/03/19
Rydan ni wedi sôn digon am albwm ardderchog Mr, Oesodd, yma ar wefan Y Selar a hefyd wrth gwrs yn rhifyn Rhagfyr o’r cylchgrawn lle roedd cyfweliad gyda Mark Roberts ynglŷn â’i brosiect diweddaraf. Mae Mr bellach wedi gwneud dau gig – y cyntaf nôl adref yn Llanrwst, a’r llall yn Galeri, Caernarfon fis diwethaf.
Penwythnos yma, mae Mark yn ymddangos ar lwyfan ei ail gartref – Clwb Ifor Bach. Gyda chefnogaeth gan Los Blancos a SYBS (y ddau fand sy’n hawlio prif gyfweliadau rhifyn diweddaraf Y Selar digwydd bod!), mae’n stoncar o leinyp felly dim syndod fod y tocynnau i gyd wedi hen werthu – peidiwch troi fyny heb un.
Cwpl o gigs gan Gogs penwythnos yma, wrth iddyn nhw gynnal ‘Taith-Y-Cofi’ yng Nghaernafon. Maen nhw yn Y Castell nos Wener ac yn Neuadd y Farchnad nos Sadwrn.
Mae Bryn Fôn yn brysur iawn ar hyn o bryd ag yntau newydd ryddhau ei albwm diweddaraf, BRYNbach. Cyfle i’w weld penwythnos yma yng Nghlwb y Royal Welsh, Blaenau Ffestiniog nos Sadwrn. Boi yr un mor boblogaidd, ond hyd yn oed prysurach na Bryn ydy Welsh Whisperer, nos fory mae o’n nhafarn y White Swan yn Llannon ger Aberaeron.
Gwerth sôn hefyd am gig yn The Social, Llundain nos Fawrth lle mae Huw Stephens yn curadu nosweithiau rheolaidd. HMS Morris ydy’r prif atyniad ganddo y tro yma gyda chefnogaeth gan Perfect Body a Zac White.
Bach o amrywiaeth yn fana i chi!
Cân: ‘Mae’r Dyddiau Gwell i Ddod’ – Papur Wal
Newyddion ardderchog o gyfeiriad Caerdydd – mae sengl newydd Papur Wal allan heddiw!
‘Mae’r Dyddiau Gwell i Ddod’ ydy enw trac newydd y grŵp sydd ag aelodau’n dod yn wreiddiol o’r Gogledd, ond sydd bellach wedi ymsefydlu yn y brifddinas.
Recordiau Libertino sydd yn rhyddhau’r sengl newydd, a’r newyddion da pellach ydy mai tamaid i aros pryd yn unig ydy’r trac gan fod EP newydd allan ganddyn nhw’n fuan iawn. Enw’r EP ydy Lle yn y Byd Mae Hyn? a gallwn ddisgwyl gweld y record mor fuan â diwedd mis Mawrth.
“Mae’r gân yma’n trafod gadael adref ar gyfer dilyn bywyd dy hun, a’r euogrwydd sy’n gallu dod gyda hynny wrth adael pobl eraill” meddai’r band am y sengl newydd.
“Yn ganolog i’r gân mae rhannu profiad o dyfu fyny’n unig ar adegau, pan nad yw person ifanc wedi cyrraedd lle mae’n nhw eisiau bod. Er fod pethau’n ymddangos yn ddrwg i gyd, fydd pethau’n gwella cyn hir.”
Record: BRYNbach – Bryn Fôn
Wythnos diwethaf roedd casgliad newydd Bryn Fôn yn cael ei ryddhau’n ddigidol.
BRYNbach ydy enw prosiect diweddaraf un o gerddorion mwyaf poblogaidd a llwyddiannus Cymru, ac mae’n rhoi triniaeth acwstig i nifer o ganeuon amlwg ei ôl gatalog ar yr albwm.
Mae Bryn Fôn a’i fand, wedi bod yn perfformio fersiynau acwstig o ganeuon Crysbas, Sobin a’r Smaeliaid mewn lleoliadau amrywiol ers sawl blwyddyn. Mae’r albwm newydd yn rhoi bywyd newydd i nifer o hen ganeuon, ac yn cynnig fersiynau tawelach o ffefrynnau eraill.
Mae’r casgliad hefyd yn cynnwys pedair cân newydd sydd wedi eu cyfansoddi’n arbennig ar gyfer yr albwm.
Cwpl o gyfleodd i weld setiau byw BRYNbach yn nes mlaen yn y mis hefyd:
22 Mawrth – Neuadd y Groeslon, Caernarfon (BRYNbach)
29 Mawrth – Y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth (BRYNbach)
Beth bynnag eich barn ynglŷn â cherddoriaeth Bryn Fôn, rhaid cyfaddef bod ambell diiiiwn ar y casgliad, gan gynnwys yr hyfryd ‘Tri o’r Gloch y Bora’:
Artist: SYBS
Pwy? Teipo bach yn fana oes Y Selar? Na, nid teipo, ond newid bach i enw y grŵp ifanc o Gaerdydd a arferir eu hadnabod fel Y Sybs.
Mae’n wythnos arwyddocaol i enillwyr Brwydr y Bandiau llynedd am sawl rheswm i ddweud y gwir. Nid yn unig eu bod nhw wedi cyhoeddi’r newid i enw’r band, ond maen nhw hefyd wedi cyhoeddi eu bod nhw’n ymuno â stabal Recordiau Libertino.
Mewn cyfweliad gyda Lois Gwenllian yn rhifyn diweddaraf Y Selar, mae’r grŵp yn datgelu eu bod newydd recordio sengl ddwbl ‘Paid Gofyn Pam / Cadw Draw’ gyda’r cynhyrchydd gwych Kris Jenkins. Rydan ni bellach yn gwybod mai Libertino fydd yn cael y pleser o ryddhau eu cynnyrch cyntaf.
Dywed y grŵp yn y cyfweliad gyda Lois fod ganddyn nhw nifer o ganeuon newydd hefyd, gydag awgrym cryf y gallwn ni ddisgwyl newid bach i sŵn y pedwarawd gan symud i gyfeiriad mwy dawns a disgo.
SYBS ydy Osian Llŷr, Herbie Powell, Dafydd Adams a Zach Headon ac mae datblygiad aruthrol wedi bod yn y grŵp ifanc dros y flwyddyn ddiwethaf.
Yn ogystal â’r ddau bwt o newyddion uchod, mae’n wythnos bwysig o gigio i’r grŵp hefyd – roedden nhw’n perfformio yn lansiad rhifyn newydd y zine ‘Cusp’ yn The Printhouse yng Nghaerdydd nos Fawrth, ac mae cyfle i’w gweld yn cefnogi Mr yng Nghlwb Ifor Bach nos fory wrth gwrs.
Un peth arall…: Gwobr i Serol Serol
Ers sawl blwyddyn bellach mae Llwybr Llaethog wedi bod yn dyfarnu gwobr arbennig i artist am eu cyfraniad arbennig i gerddoriaeth Gymreig ar ddechrau mis Mawrth.
Mae’r enillydd yn derbyn gwobr wedi ei chreu gan John a Kevs eu hunain, a nos Wener diwethaf fe gyhoeddwyd ar gyfrif Twitter Llwybr Llaethog mai y grŵp pop gofodol, Serol Serol, oedd yr enillwyr eleni.
Mae enillwyr blaenorol yn cynnwys Mr Phormula (2018), Meic Sbroggs (2017), Dau Cefn (2016), Y Pencadlys (2015) a Rhys Jakokoyak (2014).
Rhyddhaodd Serol Serol eu halbwm cyntaf, sy’n rhannu enw’r grŵp, ym mis Mawrth llynedd ac mae’n nhw’n cael eu gweld fel un o fandiau newydd mwyaf cyffrous Cymru – llawn haeddu’r clod yn ein barn ni, gwych iawn.
Dyma nhw’n perfformio ‘Aelwyd’ yng Ngwobrau’r Selar llynedd: