Gig: Gwilym Bowen Rhys – Bragdy Cwrw Llŷn, Nefyn 9/11/19
Mae wedi bod yn reit brysur o ran gigs dros yr wythnos diwethaf, ond mae’r penwythnos yma’n gyfle i ddal ein gwynt rhyw ychydig.
Er hynny, mae ‘na ambell gig bach da nos Sadwrn os ydach chi awydd noson allan a bach o gerddoriaeth o safon.
Ein prif ddewis ni ydy gig prynhawn ym mragdy Cwrw Llyn yn Nefyn, lle mae Gwilym Bowen Rhys yn perfformio am 17:00 ag yntau’n ffresh o daith ddiweddar i Golumbia.
Mae Bitw yn dilyn esiampl Gwilym ac yn teithio dramor dros y penwythnos – os ydach chi digwydd bod yn Ngwlad Belg yn darllen hwn, yna beth am anelu draw i ŵyl Sonic City yn Kortrijk i weld prosiect cerddorol diweddaraf Gruff ab Arwel.
Mae’n ymddangos bod mwy o artistiaid Cymraeg yn perfformio tu allan i Gymru penwythnos yma na sydd yng Nghymru ei hun! Bydd gig Atsain Priddin yn Llundain pnawn fory’n llwyfannu Georgia Ruth, The Gentle Good, Accu a Toby Hay.
Ac yna ym mhrifddinas Gogledd Lloegr, mae Band Pres Llareggub yn gwneud eu hymddangosiad diweddaraf yn nghlwb Matt & Phreds ym Manceinion.
Cân: ‘Wedi Blino’ – She’s Got Spies
Mae She’s Got Spies wedi rhyddhau sengl newydd o’r enw ‘Wedi Blino’ heddiw.
She’s Got Spies ydy prosiect cerddorol Laura Nunez, sy’n hanu’n wreiddiol o Lundain ond a ddechreuodd ddysgu Cymraeg cyn symud i fyw yng Nghaerdydd yn ystod y nawdegau.
Ffurfiwyd y grŵp yn wreiddiol yn 2005, ond cafwyd egwyl hir nes iddynt ail-ymddangos llynedd gan ryddhau albwm cyntaf o’r enw Wedi ar label Recordiau Rheidol.
Nawr mae’r sengl newydd yn arwydd o’r hyn sydd i ddod gydag addewid o albwm arall yn ystod 2020. Y sengl Gymraeg ydy’r gyntaf i’w rhyddhau o’r albwm ac mae ar gael i’w lawr lwytho a’i ffrydio o heddiw, 8 Tachwedd.
Daw’r ail albwm ar ôl nifer o berfformiadau byw gan y band gan gynnwys mewn gwyliau fel Indietracks, Focus Wales a Wales Goes Pop. Mae hyn yn ogystal ag ymddangosiadau mewn lleoedd mwy pellennig gan gynnwys Rwsia, Bwlgaria a hyd yn oed ar long archwilio’r môr yn yr Antarctig.
Mae’r sengl ddigidol yn cael ei rhyddhau ar label Zelebritee ac ar gael ar yr holl lwyfannau digidol arferol. Gwrandewch arni isod…
Record: Y Gofodwyr Piws
Albwm o’r archif i chi wythnos yma, ac un gan fand na fydd llawer o’n darllenwyr iau yn gyfarwydd â nhw o gwbl!
Grŵp a ffurfiodd yn Ysgol Glan Clwyd ar ddiwedd y 1980au oedd Gofodwyr Piws.
Roedd ‘na dipyn o fwrlwm cerddorol yn Nyffryn Clwyd, ac yn Ninbych a Rhyl yn arbennig tua’r cyfnod yma, a Gofodwyr Piws oedd un o’r swp o fandiau ifanc a ddaliodd y llygad am gyfnod.
Yr aelodau oedd Robin Hughes, Alwyn Ward, Phil ‘Cosmic’ Morris, David Yates, Dyl Wyn, Edward Wez Robinson. Teg dweud eu bod nhw bach yn boncyrs! Bosib bydd un neu ddau o’r aelodau’n gyfarwydd, yn enwedig un sy’n gynhyrchydd parchus ar Radio Cymru bellach. Roedd y ffryntman, Robin, yn dipyn o gymeriad hefyd…ac yn dal i fod.
Fe wnaethon nhw ryddhau albwm o’r enw Y Gofodwyr Piws ym 1991, ac mae’r traciau i’w clywed ar sianel YouTube Ffarout.
Mae ‘na gyfweliad bach da gyda’r band gydag Ian Gill yn holi ar YouTube – gwerth gwylio. Eu cân enwocaf mae’n debyg oedd ‘Gadael Fi Fod’, ac mae honno ar ôl y cyfweliad isod. Gwyliwch, achos dyma’r 9 munud gorau y gwnewch chi dreulio heddiw!
Artist: Kim Hon
Bach o sylw i Kim Hon am ddau reswm wythnos yma.
Yn gyntaf, mae’r grŵp sydd wedi creu argraff fawr dros y misoedd diwethaf yn chwilio am gitarydd newydd, ac wedi gofyn i bobl sydd â diddordeb gysylltu â hwy ar eu cyfryngau cymdeithasol.
Siôn Gwyn sydd wedi bod yn chwarae gitâr i’r grŵp hyd yma, ond roedd Siôn yn chwarae ei gigs olaf gyda’r grŵp yng Nghaernarfon nos Wener ac yna Wrecsam nos Sadwrn. Os ydach chi’n reit handi ar y gitâr ac efo diddordeb mewn ymuno â’r grŵp newydd ardderchog, rhowch waedd iddyn nhw ynde – @KIMHON420
Ac yr ail reswm dros roi sylw iddynt ydy gan fod fideo sesiwn ‘Curadur’ o’r gân ‘Pry yn y Gwynt’ wedi ymddangos ar gyfryngau digidol rhaglen Lŵp, S4C yr wythnos yma hefyd. Mwynhewch:
Un peth arall…: Plan B
Na, di’r cerddor hip-hop byd enwog ddim wedi dechrau canu’n Gymraeg – mae ganddom ni Mr Phormula a Tri Hŵr Doeth, sy’n llawer gwell.
Yn hytrach, y ‘Plan B’ dan sylw ydy pâr o gigs sy’n cael eu cynnal fis Rhagfyr i drio llenwi rhywfaint ar y bwlch adawyd wrth i ddwy noson olaf Maes B yn Llanrwst gael eu canslo oherwydd y tywydd garw.
Mae’r gigs yn cael eu trefnu ar y cyd gan AM a Maes B, gyda’r union leinyps oedd i fod i ymddangos ar lwyfan Maes B yn Llanrwst.
13 ac 14 Rhagfyr ydy’r dyddiadau, ac mae’r gigs yng Nghaerfyrddin a Wrecsam.
Dyma’r leinyps i’ch hatgoffa:
13 Rhagfyr 2019
Undeb Myfyrwyr y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin
Mellt
Adwaith
Papur Wal
Wigwam
DJ Elan Evans
14 Rhagfyr 2019
Tŷ Pawb, Wrecsam
Gwilym
Los Blancos
Lewys
Tri Hwr Doeth
DJs Pyst yn dy Glust