Pump i’r Penwythos – 13 Rhagfyr 2019

Gig: Gigs Plan B – Caerfyrddin a Wrecsam – 13 + 14/12/19

Ew, mae hi’n brysur o ran gigs ar hyn o bryd wrth i ni agosau at y Nadolig a diwedd 2019! Lot o stwff da yn digwydd penwythnos yma, felly dyma grynhoi…

Roedd Yr Ods yn perfformio am y tro cyntaf ers sbel wythnos diwethaf yng Nghaernarfon, a heno maen nhw’n chwarae eu hail gig i hyrwyddo’r albwm newydd, Iaith y Nefoedd, yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd.

Gigs mwyaf y penwythnos ydy gigs Plan B, sef yr ail ymgais i roi artistiaid nos Wener a Sadwrn Maes B Steddfod Llanrwst ar lwyfan, ar ôl i’r tywydd chwalu’r cynllun gwreiddiol! Mae’r gig cyntaf yng Nghaerfyrddin heno gyda lein-yp gwych sy’n cynnwys Mellt, Adwaith, Papur Wal, Wigwam a DJ Elan Evans.

Mae leinyp nos fory yn Wrecsam yn ddigon i ddod â dŵr i’r dannedd hefyd – Gwilym, Los Blancos, Lewys a 3 Hwr Doeth. Blasus.

Rhywsut, mae 3 Hwr Doeth am chwarae ail gig nos fory hefyd! Byddan nhw’n bomio hi lawr yr A55 i chwarae mewn gig sy’n dal y llygad yn Neuadd Hendre ger Bangor ar ôl chwarae yn Wrecsam. Mae Mellt, Kim Hon a Pys Melyn hefyd yn chwarae – stoncar o gig.

Un arall sy’n perfformio ddwywaith dros y penwythnos ydy Al Lewis, a hynny yn y dybyl-hedar o’i sioeau Nadolig yn Eglwys Sant Ioan ym Mhontcanna.

Mae’r sioe olaf o daith ‘ORIG!’ gan Gai Toms a’r Banditos yn ymweld â’r Pengwern ym Mlaenau Ffestiniog heno, ac mae Bryn Fôn a’r Band yn Saith Seren, Wrecsam hefyd.

Un gig olaf i gloi, a hwnnw’n un Nadoligaidd iawn ei naws, sef sioe Cabarela yn Yr Egin, Caerfyrddin heno.

 

Cân: ‘Olion (Ifan Dafydd Remix)’ – Carwyn Ellis a Rio ‘18

Heb os, un o albyms gorau’r flwyddyn a fu ydy Joia! gan Carwyn Ellis a Rio ’18.

Mae nifer o draciau cofadwy ar record hir a phrosiect dyfeisgar diweddaraf y cerddor gwych, ac os ydach chi’n teimlo’n llwm ynglŷn â’r tywydd diflas ar hyn o bryd yna mae chwarae’r casgliad yma’n siŵr o daflu ychydig o heulwen ar eich bywyd.

Wythnos diwethaf mae fersiwn newydd sbon danlli o un o’r traciau wedi ymddangos, sef ail-gymysgiad o ‘Olion’ gan y cynhyrchydd uchel ei barch, Ifan Dafydd.

Mae Ifan yn gyfarwydd  iawn am ei waith ail-gymysgu, ac eisoes wedi creu fersiynau newydd o Bendigeidfran’ gan Lleuwen ac ‘I Dy Boced’ gan Thallo yn ystod 2019.

Nid dyma’r tro cyntaf i Ifan Dafydd gydweithio gyda Carwyn Ellis – roedd y ddau’n rhan o sesiwn unnos BBC Radio Cymru ar ddiwedd Chwefror 2012 ar gyfer ei ddarlledu ar ddydd Gŵyl Dewi.

Wedi i Ifan glywed yr albwm Joia!, gofynodd am yr hawl i ail-gymusgu ‘Olion’ a gyda chaniatad Carwyn, dyma gydweithrediad arall bron i 8 mlynedd yn ddiweddarach.

Yn sicr mae’r boi yma’n gwbod sut i wneud remics!

 

 

Record: Hip Hip Hwre – 3 Hwr Doeth

Dim llawer o amheuaeth pa albwm fyddai’n cael sylw ein dewis o record yr wythnos hon wrth i’r grŵp hip-hop ardderchog o Gaernarfon, 3 Hwr Doeth, ryddhau ei hail record hir.

‘Hip Hip Hwre’ ydy enw albwm newydd y grŵp sy’n rhannu nifer o aelodau gyda Pasta Hull.

Rhyddhawyd eu halbwm cyntaf dan yr enw ‘Pasta Hull Presents…3 Hwr Doeth’ yn hollol ddi-rybudd ddwy flynedd yn ôl ar ddiwrnod Nadolig 2017 – ac o ystyried y chwarae ar eiriau yn enw’r prosiect, maen nhw’n amlwg yn hoffi cyfnod y Nadolig!

Ers rhyddhau’r albwm cyntaf, mae’r grŵp wedi mynd ymlaen i berfformio mewn sawl sioe  gofiadwy, sydd bron yn ddi-ffael yn llawn dop. Fel y gwelwch chi uchod, mae ganddyn nhw ddwy sioe nos Sadwrn, ac os oes modd i chi gyrraedd un ohonyn nhw yna gwnewch hynny da chi.

Recordiau Noddfa sy’n rhyddhau’r albwm newydd ac yn ôl y label mae’r casgliad yn gymysg newydd o ganeuon bygythiol, gwleidyddol a hyn yn oed rhywiol, gyda dychweliad telynygol y rapwyr Brochwel Ysgithrog, Jac Da Trippa, BOI MA ac yr Arch Hwch.

Mae’r record ddiweddaraf hefyd yn cynnwys cyfraniadau gan rapwyr newydd fel DJ Dilys, Basdich, Dr Slingdick, Griff Lynch a mwy.

Dyma fideo un o draciau’r albwm newydd, ‘Slingdick Droppin’ the Bassline’:

 

 

 

Artist: Al Lewis

Byddwn ni’n aml yn cyfeirio at Al Lewis fel ‘Bing Crosby Cymru’ tua’r adeg yma o’r flwyddyn!

A hynny am reswm da gan fod Al yn sicr yn ei elfen o gwmpas cyfnod y Nadolig.

Y penwythos yma mae ei sioe Nadoligaidd flynyddol yn digwydd yn Eglwys Sant Ioan, Treganna gyda’r tocynnau ar gyfer y ddwy noson wedi hen werthu allan.

Am y tro cyntaf eleni fe aeth a’i sioe Nadolig i’r gogledd, ac i Eglwys Llanengan ger Abersoch ar nos Sadwrn 30 Tachwedd.

Tra roedd yn Llanengan, manteisiodd ar y cyfle i ffilmio fideo ar gyfer ei sengl newydd – ‘Cân Begw’ a ryddhawyd ddydd Gwener diwethaf. Mae’r sengl yn damaid i aros pryd nes rhyddhau ei albwm newydd, Te yn y Grug, fydd allan fis Chwefror, gyda manylion taith Wanwyn wedi’u rhyddhau hefyd.

Daf Nant, neu ‘Ffoto Nant’, sy’n gyfrifol am waith ffilmio a chyfarwyddo’r fideo newydd, ac roedd cyfle cyntaf i’w weld ar wefan Y Selar ddydd Mercher.

Os nad ydy hwn yn rhoi chi mewn mŵd Nadoligaidd, yna ma’n rhaid ei bod chi’n perthyn i Ebenezer Scrooge!

 

 

Un peth arall…: Fideo ‘Sinema’ gan Achlysurol

Mae’n amlwg yn dymor y fideos cerddoriaeth, yn ogystal ag ewyllus da, gyda llwyth o fideos newydd yn ymddangos dros y cwpl o wythnosau diwethaf.

Un o’r rheiny ydy fideo sengl ddiweddaraf y grŵp o Arfon, Achlysurol.

Rhyddhawyd ‘Sinema’ yng nghanol mis Tachwedd ar label JigCal, ac roedd cyfle cyntaf i weld y fideo fel rhan o wythnos ffilm y Galeri yng Nghaernarfon bryd hynny.

Bellach mae cyfle i bawb weld y fideo ar-lein ar sianel YouTube Achlysurol.

Mae’r fideo wedi’i gyfarwyddo gan Gwion Tegid, ac aelodau’r grŵp gydag Ifan Emyr, drymiwr Achlysurol, yn gyfrifol am y gwaith golygu.