Gig: Radio Rhydd, Twmffat, 3 Hwr Doeth, Lolfa Binc – Neuadd Ogwen, Bethesda – 21/12/19
Ar ôl cwpl o benwythnosau prysur, mae’n amlwg bod pobl yn cael bach o hoe penwythnos yma…neu jyst yn meddwi’n rhacs yn eu partion Nadolig gwaith yn hytrach na mynd i gigs!
Er gwaetha hynny mae ambell gig bach Nadoligaidd neis dros y penwythnos os ydach chi isio osgoi eich cyd-weithwyr a Gwener Gwirion!
Mae Gruff Rhys wedi bod yn teithio Cymru gydag albwm Pang!, ond heno mae’r olaf o’r gyfres fer o gigs yng Nghrughywel. Tocynnau wedi hen werth allan cofiwch.
Mae Melin Melyn wedi bod yn ddigon bywiog dros yr hydref, ac yn gigio eto yng Nghaerdydd heno yn The Moon.
Roedd gigs Cabarela Nadolig yn boblogaidd tua’r adeg yma llynedd, ac mae dau gyfle i weld y sioe dros y penwythnos – y cyntaf yn Galeri, Caernarfon nos fory, ac yna yn Amgueddfa Ceredigion, Aberystwyth nos Sul.
Ond gig mwyaf y penwythnos heb os ydy hwnnw yn Neuadd Ogwen, Bethesda gyda stoncar o lein-yp – Radio Rhydd, Twmffat, 3 Hwrw Doeth, Lolfa Binc a Scotch Funeral.
Cân: ‘Golau’ – magi.
Tiiiiwn yr wythnos ydy sengl newydd y gantores ifanc gyffrous, magi.
Bydd magi. yn fwy cyfarwydd i lawer ohonoch chi fel Magi Tudur mae’n siŵr.
Bu’n perfformio am rai blynyddoedd dan yr enw hwnnw, gan ryddhau senglau ac un EP o’r enw ‘Gan Bwyll’ yn 2016.
Penderfynodd i newid ei henw perfformio yn ddiweddar, a dyma ydy ei hail sengl dan yr enw hwnnw’n dilyn ‘Blaguro’ a ryddhawyd ym mis Awst.
Mae ‘Golau’ wedi’i chynhyrchu gan Ceiri Humphreys o’r grwpiau Ffracas a Pys Melyn, ac mae stamp seicadelig Ceiri i’w glywed ar y trac yn sicr. Ma hon yn dda gyfeillion…
Record: Week of Pines – Georgia Ruth
Mae Georgia Ruth wedi cyhoeddi y bydd yn rhyddhau ei halbwm newydd ym mis Mawrth ar label Bubblewrap Collective.
Dyma fydd trydydd albwm Georgia, felly wrth i ni edrych ymlaen at ei chynnyrch diweddaraf, mae’n gyfle i fwrw golwg nôl ar ei halbwm cyntaf, Week of Pines.
Roedd Georgia wedi rhyddhau EP o’r enw In Luna ar label Gwymon, sef un o is-label Sain ar y pryd, nôl yn 2011 gan ddechrau greu argraff. Ond teg dweud mai ei halbwm llawn cyntaf lansiodd i gyrfa o ddifrif.
Recordiwyd yr albwm yn stiwdio Bryn Derwen gyda David Wrench yn cynhyrchu ac mae’r casgliad yn cynnwys cyfraniadau gan ei gwr, Iwan Huws, a’i frodyr Dafydd ac Aled.
Fe gafodd yr albwm dipyn o sylw a chanmoliaeth ar y pryd, gan gynnwys gael ei chwarae’n rheolaidd ar Radio Wales, Radio 1 a hefyd ar raglenni Steve Lamacq a Tom Robinson yn enwedig ar BBC 6 Music.
Gymaint oedd poblogrwydd yr albwm nes iddi gipio teitl y Wobr Gerddoriaeth Gymreig (Welsh Music Prize) yn 2013 – cyn hynny, dim ond Gruff Rhys a Future of the Left oedd wedi ennill y wobr.
‘Mai’ fydd enw trydydd albwm y gantores, ac mae’r casgliad yn mynd i’r afael a’i gwreiddiau a hithau wedi symud nôl i fro ei mebyd yn Aberystwyth ers ei hail albwm, Fossil Scale.
Mae manylion taith hyrwyddo’r albwm hefyd wedi eu cyhoeddi, gigs rhwng diwedd Mawrth a dechrau Mai 2020 yn ymweld â Chasnewydd, Aberystwyth, Caer, Bangor, Amwythig, Caerdydd a Wrecsam.
Cyn edrych ymlaen at hynny, gadewch i ni wrando ar un o draciau Week of Pine, a’r glasur wirioneddol, ‘Etrai’:
Artist: Beth Celyn
Braf gweld cynnyrch newydd allan gan Beth Celyn wrth iddi gyd-weithio â’r cynhyrchydd Shamoniks i ryddhau sengl newydd.
Enw’r sengl ydy ‘Fenws’ ac mae allan ar label UDISHIDO, sef y label sy’n cael ei redeg gan Shamoniks ei hun, sef y cerddor Sam Humphreys.
Ryddhaodd Beth ei sengl ddiwethaf, ‘Llwybrau’, ar y cyd â Jack Davies ym mis Chwefror eleni. Cyn hynny, rhyddhawyd EP cyntaf y gantores o Ddinbych, sef ‘Troi’, ar label Sbrigyn Ymborth ar ddechrau 2018.
Nid Beth ydy’r gantores gyntaf i ffurfio tîm effeithio gyda Shamoniks eleni – rhyddhaodd y cynhyrchydd albwm ar y cyd gydag Eädyth – ym mis Awst.
Mae cefndir gwerinol Shamoniks, sy’n aelod o Calan a No Good Boy, i’w glywed ar y sengl sy’n cyfuno synau gwerin cyfoes gydag elfennau electronig trwm.Yn ôl pob tebyg, cyfarfu Sam â Beth Celyn wrth recordio albwm y band gwerin Vrï, ‘Tŷ Ein Tadau’.
Dyma Fideo ‘Fenws’ a ymddangosodd ar lwyfannau digidol Lŵp yn gynharach yn yr wythnos.
Un peth arall…: Agor pleidlais Gwobrau’r Selar
Ganol yr wythnos fe agorodd pleidlais Gwobrau’r Selar, ac mae modd i chi bleidleisio dros enillwyr y categorïau eleni rhwng nawr a 23:59 ar nos Calan.
Yn ystod mis Tachwedd bu i chi, darllenwyr Y Selar enwebu enwau ar gyfer categorïau amrywiol y Gwobrau, ac ar ôl i’n panel ni ddewis rhestrau hir o’r enwebiadau hynny, mae’r bleidlais derfynol nôl yn eich dwylo chi.
Gallwch fwrw eich pleidlais ar y ffurflen bleidleisio.
Ac wrth i chi wneud hynny, beth am archebu tocynnau ar gyfer penwythnos y Gwobrau yn Aberystwyth ar 14-15 Chwefror? Tocynnau penwythnos yn unig sydd ar werth ar hyn o bryd am bris rhesymol iawn o £25 ar gyfer dwy noson o berfformiadau gan fandiau gorau Cymru.
Pan fyddwch wedi bwrw eich pleidlais, byddwch yn gweld dolen ar y gwaelod ar gyfer archebu tocyn – nifer cyfyngedig o docynnau, dim ond 500, sydd eleni. Gan gofio bod dros 1000 o bobl wedi bod yn dod yn y gorffennol, a thocynnau’n gwerthu i gyd ymlaen llaw fel arfer, peidiwch ag oedi. Maen nhw’n anrheg Nadolig bach munud olaf neis hefyd!
Dyma un o uchafbwyntiau’r Gwobrau’ llynedd, enillwyr 5 o’r gwobrau, Gwilym, yn perfformio Catalunia: