Pwy hec di Jan Hudec?

Grŵp sy’n denu tipyn o sylw dros yr wythnosau diwethaf, ac sydd wedi cael sylw arbennig yma ar wefan Y Selar dros y bythefnos ddiwethaf ydy Papur Wal.

Mae rheswm da am hynny gan fod eu EP cyntaf ‘Lle yn y Byd Mae Hyn?’ allan yn swyddogol ar label Recordiau Libertino heddiw!

Wrth gwrs, os ydach chi’n ymwelydd rheolaidd â gwefan Y Selar, mae’n debygol eich bod eisoes wedi clywed y casgliad newydd gan ein bod wedi cael caniatad i’w ffrydio ecsgliwsif ar y wefan bythefnos yn ôl. Ac os ydach chi wedi manteisio ar y cyfle, mae’n debygol fod y gân ‘Yn y Weriniaeth Tsiec’ wedi ennyn eich chwilfrydedd, a hynny am reswm da gan fod stori ddifyr i’r gân a’r fideo a gyhoeddwyd gan Ochr 1 wythnos diwethaf.

Pwy hec?

Cyhoeddwyd i fideo ar gyfer ‘Yn y Weriniaeth Tsiec’ ar lwyfannau amrywiol Ochr 1 ddydd Gwener diwethaf, ac mae’r ymateb iddo wedi bod yn arbennig o dda.

Cyfarwyddwyd y fideo gan Billy Bagilhole, sydd hefyd yn gyfrifol am waith celf yr EP newydd. Fel y trac, mae’r fideo yn adrodd peth o hanes y sgïwr Jan Hudec a aned yn 1981 yn Tsiecoslofacia.

Mae hanes bywyd Hudec yn un digon rhyfeddol wrth i’w deulu ddianc rhyfeloedd y wlad a mudo i’r Almaen ar gwch wedi’i adeiladu gan ei dad, cyn symud i Calgary yng Nghanada yn ddiweddarach.

Roedd tad Hudec yn hyfforddwr sgïo yng Nghanada, a gwireddodd Jan ei freuddwyd trwy gynrychioli Canada mewn campau sgïo cyflym.

Roedd yn cael ei weld fel dyn gwyllt, dirgel, bywyd y parti a cult hero, er i anafiadau olygu na chafodd wir lwyddiant am nifer o flynyddoedd. Yna, yn 32 oed yng Ngemau Olympaidd Gaeaf Sochi yn 2014, llwyddodd i gipio medal efydd yng nghystadleuaeth y ‘super-G’ – y fedal gyntaf mewn sgïo i Ganada ers 20 mlynedd.

Er hynny, cafodd ei ollwng o dîm Canada yn 2016, gan benderfynu y byddai’n troi at ei famwlad a mynd i gynrychioli’r Weriniaeth Tsiec.

‘Stori nyts’

Bu i stori ddifyr y sgïwr greu argraff ar Ianto Gruffudd o Papur yn amlwg:

“O’n i’n arfer watcho’r Winter Olympics flynyddoedd yn ôl, a nes i sylwi ar y boi ma o Ganada” meddai prif ganwr a gitarydd Papur Wal.

“Ond pedair mlynedd wedyn, oedd y boi yn cynrychioli y Weriniaeth Tsiec. A dyna sut nes i glywed y stori nyts ma am y boi – oedd o’r refugee, wedi gorfod dianc o’r Weriniaeth Tsiec ar y rafft DIY ma oedd ei dad o wedi adeiladu a setlo yn y diwedd yng Nghanada.”

Ac wrth ffilmio’r fideo, roedd gan y grŵp syniad eithaf penodol o’r hyn roedden nhw eisiau.

“Ma’r fideo’n grêt…” meddai Ianto.

“…da ni wedi cael mêt i ni, Dylan Williams, i chwara’r prif ran. Mae o’n fwriadol yn hollol over the top, fel rhyw 80s ski video.”

“Rydan ni’n hoffi ‘It’s always sunny in Philidelphia’, sy’n gyfres gomedi ar Netflix – a rhywbeth tebyg i hwn oedd y briff.”

Bydd gig lansio swyddogol EP newydd Papur Wal yn cael ei gynnal yn nhafarn yr Andrew Buchan yng Nghaerdydd ar nos Wener 5 Ebrill gyda Pasta Hull yn cefnogi.

Bu Ianto Gruffudd yn trafod mwy am yr EP newydd gyda’r Selar mewn cyfweliad arbennig yn ddiweddar.