Mae’r grŵp cyffrous, Kim Hon, wedi rhyddhau eu hail sengl heddiw 18 Hydref.
‘Nofio efo’r Fishis’ ydy enw’r trac diweddaraf gan y grŵp newydd sy’n cael eu harwain gan brif ganwr Y Reu, a’r actor, Iwan Fôn.
Mae’n ddilyniant i’w sengl gyntaf boblogaidd ‘Twti Ffrwti’ a ryddhawyd ddiwedd mis Mai, ac sydd wedi bod yn ffefryn mawr ar y tonfeddi ers hynny.
Blanced o sêr
Mae ‘Nofio Efo’r Fishis’ yn cael ei disgrifio fel ‘sengl sy’n gwrthod gadael fynd, yn flanced o sêr yn cael ei dynnu dros ein pennau gyda nostalgia, rhaglenni teledu y 90au, gwallgofrwydd y byd a breuddwydion afreal’.
“Diwrnod sych o fis Medi, asio ar ginio fistyll Bryn Ddreinniog tra’n cnoi liberty caps” meddai Iwan Fôn wrth esbonio’r gân.
“Yn ogystal â’r tacla direidus yma, mae sawl sy’n gyfrifol am gyna’r fflam sy’n goleuo seinwedd y gân. Agweddau nostalgaidd megis FIFA 03, teledu plant y 90au yn ogystal â chymdogion llwyd Ynys Môn.”
Bydd cyfle i weld Kim Hon yn perfformio yng Ngŵyl Sŵn yng Nghaerdydd penwythnos yma – byddan nhw ar lwyfan y Moon Club am 10:00 ar nos Sul 20 Hydref.
Y sengl newydd ydy’r cynnyrch diweddaraf i ddod o stabal label Recordiau Libertino.