PYST i guradu llwyfan ‘Settlement’ Gŵyl Y Dyn Gwyrdd

Asiantaeth hyrwyddo PYST sydd wedi cael y fraint o guradu llwyfan ‘Settlement’ Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn y Bannau Brycheiniog eleni.

Mae’r llwyfan yn arwain ar 12 Awst i unrhyw un sy’n cyrraedd y Bannau’n gynnar ar gyfer penwythnos prif ddigwyddiad Gŵyl y Dyn Gwyrdd a gynhelir ar 15-18 Awst. Ac mae’r llwyfan cynnar wedi dod yn fwyfwy amlwg dros y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig wrth i enwau cyfarwydd i ni gymryd cyfrifoldeb dros drefnu’r lein-yp. Clwb Ifor Bach oedd yn gyfrifol am guradu’r llwyfan llynedd, a Cowbois Rhos Botwnnog gafodd y dasg y flwyddyn flaenorol yn 2017.

Mae PYST yn sicr wedi sicrhau fod digon o gerddoriaeth Gymraeg i’w weld ar y llwyfan eleni, ac fe gyhoeddwyd y lein-yp ddydd Gwener diwethaf (15 Chwefror).

Yr enwau sy’n perfformio ydy – Pys Melyn, 3 Hwr Doeth, Mellt, Blodau Papur, Ani Glass, Y Cledrau, Y Sybs, Chroma a Los Blancos.

Mae modd archebu tocynnau ar gyfer y llwyfan, a phrif Ŵyl y Dyn Gwyrdd nawr.