Rhestr fer categori Hyrwyddwr Gorau

Y categori diweddaraf Gwobrau’r Selar i ni gyhoeddi’r rhestr fer ar ei gyfer ydy gwobr yr Hyrwyddwr Annibynnol Gorau.

Heb hyrwyddwyr, does dim gigs. Heb gigs, does dim sin. Felly mae gwaith y trefnwyr gigs sydd wedi cael eu henwebu ar gyfer y categori yma’n hollol allweddol.

Mae’r categori wedi ei gyfyngu i hyrwyddwyr ‘annibynnol’, sef yn fras hyrwyddwyr sy’n gwneud eu gwaith naill ai’n wirfoddol, neu fel busnes neu bywoliaeth – tydi sefydliadau mawr sy’n derbyn sybsidi ar gyfer eu gwaith ddim yn gymwys.

Y tri hyrwyddwr sydd wedi cyrraedd brig y bleidlais gyhoeddus eleni ydy label Recordiau Côsh; canolfan Clwb Ifor Bach yng Nghaerdydd sydd hefyd yn trefnu gigs mewn lleoliadau eraill; a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg sy’n trefnu gigs annibynnol yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol, yn ogystal â digwyddiadau trwy gydol y flwyddyn.

Tri hyrwyddwr gwahanol iawn felly, ond tri sy’n gwneud gwaith gwych a hanfodol.