Mae rhestrau byr Gwobrau’r Selar bellach yn gyflawn, wedi i ni gyhoeddi’r tri sydd wedi cyrraedd y rhestr fer olaf, sef Band Gorau, gwobr a noddir gan brif noddwr Gwobrau’r Selar, Prifysgol Aberystwyth.
Dim syndod gweld tri o fandiau prysura’, a mwyaf llwyddiannus 2018 yn dod i frig y bleidlais gyhoeddus fu ar agor trwy gydol mis Rhagfyr.
Yr enw cyntaf ar y rhestr ydy y grŵp o ardal Y Bala, Y Cledrau. Er mai reit ar ddiwedd 2017 y rhyddhawyd albwm cyntaf Y Cledrau, Peiriant Ateb, 2018 heb os fu’r flwyddyn fawr iddyn nhw o ran hyrwyddo’r record. Maen nhw wedi gigio’r rheolaidd trwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys perfformiadau cofiadwy ar lwyfan maes yr Eisteddfod a Maes B, cwpl o gigs Twrw yng Nghlwb Ifor Bach, ac wrth gwrs gig olaf Neuadd Buddug ym mis Tachwedd.
Mae Mellt wedi bod yn bygwth concro’r sin ers sawl blwyddyn, ond 2018 oedd y flwyddyn fwyaf hyd yma iddyn nhw wrth iddyn nhw ryddhau eu halbwm cyntaf, Mae’n Hawdd Pan Ti’n Ifanc, a gigio’n fwy na neb (heblaw Welsh Whisperer ella) yn ystod y flwyddyn. Albwm Mellt oedd yr unig record Gymraeg ar restr fer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig, a Mae’n Hawdd Pan Ti’n Ifanc gipiodd deitl Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Dechreuodd 2018 yn dda i’r band o Wynedd a Môn, Gwilym, wrth iddyn nhw gipio gwobr ‘Band neu Artist Newydd Gorau’ Gwobrau’r Selar ym mis Chwefror. Ers hynny maen nhw wedi mynd o nerth i nerth gan ryddhau cyfres o senglau gyda Recordiau Côsh, cyn rhyddhau eu halbwm cyntaf, Sugno Gola, ddiwedd mis Gorffennaf. Un o fandiau mwyaf poblogaidd Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf heb os.
Rhestrau byr yn gyflawn
Mae cyhoeddi’r rhestr fer ddiweddaraf yn golygu fod rhestrau byr Gwobrau’r Selar bellach yn gyflawn – gallwch eu gweld yn llawn isod.
Mewn newid bach i’r drefn arferol, rydym hefyd wedi dechrau cyhoeddi enwau rhai o’r enillwyr eleni, gyda’r cyhoeddiad nos Fercher mai clawr Sugno Gola gan Gwilym sydd wedi cipio’r wobr ‘Gwaith Celf Gorau’ .
Bydd enillwyr tair o’r gwobrau eraill yn cael eu datgelu dros y bythefnos nesaf, a’r gweddill yn cael eu cyhoeddi yn Aberystwyth ar benwythnos Gwobrau’r Selar, 15-16 Chwefror.
Rhestrau Byr Gwobrau’r Selar 2018
Cân Orau (noddir gan PRS for Music)
Catalunya – Gwilym
Rebel – Mellt
Ddoe, Heddiw a ‘Fory – Candelas
Hyrwyddwr Annibynnol (Noddir gan Dydd Miwsig Cymru)
Recordiau Côsh
Clwb Ifor Bach
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Gwaith Celf Gorau (Noddir gan Y Lolfa)
Bubblegum – Omaloma
Yn Fy Mhen – Lewys
Sugno Gola – Gwilym
Cyflwynwydd Gorau (Noddir gan Heno)
Tudur
Garmon ab Ion
Huw Stephens
Artist Unigol Gorau (Noddir gan Galactig)
Welsh Whisperer
Alys Williams
Mei Gwynedd
Artist Newydd Gorau (Noddir gan Gorwelion)
3 Hwr Doeth
Lewys
Wigwam
Digwyddiad Byw Gorau (Noddir gan Tinopolis)
Sesiwn Fawr Dolgellau
Tafwyl
Maes B
Fideo Cerddoriaeth Gorau (Noddir gan Hansh)
Cysgod – Gwilym
Gwres – Lewys
Cwîn – Gwilym
Record Hir Orau (Noddir gan Rownd a Rownd)
Sugno Gola – Gwilym
Mae’n Hawdd Pan Ti’n Ifanc – Mellt
O Nunlla – Phil Gas a’r Band
Record Fer Orau (Noddir gan Cymdeithas yr Iaith Gymraeg)
Croesa’r Afon – Trwbz
Y Gwyfyn – The Gentle Good
Portread o Ddyn yn Bwyta ei Hun – Breichiau Hir
Band Gorau (Noddir gan Brifysgol Aberystwyth)
Y Cledrau
Mellt
Gwilym
Seren y Sin (Noddir gan Ochr 1)
Aled Hughes
Branwen Williams
Michael Aaron Hughes