Rhyddhau albwm Bitw

Mae Bitw wedi rhyddhau ei albwm cyntaf, hunandeitlog, ers dydd Gwener 14 Mehefin.

Bitw ydy prosiect diweddaraf y cerddor amryddawn Gruff ab Arwel, sydd hefyd yn adnabyddus fel aelod o Eitha Tal Ffranco ac Y Niwl. Mae Gruff hefyd yn gyfrifol am label recordiau Klep Dim Trep, sy’n gyfrifol am ryddhau’r albwm.

Rhyddhawyd sengl gan Bitw, ‘Diolch am eich Sylwadau, David’ yn gynharach yn y flwyddyn, ac mae ei sengl ddiweddaraf o’r enw ‘Love is Happening’ allan ers dydd Gwener 24 Mai.

Mae’r casgliad wedi bod ar gael i’w rag-archebu ar ei safle Bandcamp ers rhai wythnosau ond bellach allan yn swyddogol.

Mae nifer cyfyngedig o 500 o gopiau’r albwm wedi cael eu rhyddhau ar feinyl gan label Joyful Noise Records o Indianapolis. Mae’r label yn gofyn i artistiaid amlwg ddewis albwm i’w ryddhau bob mis dros flwyddyn, a’r mis hwn tro’r gantores o Gymru Cate Le Bon oedd hi, a dewisodd record hir gyntaf Bitw.

Mae’r copiau feinyl oedd ar werth gan Joyful Noise Records eisoes wedi’i gwerthu i gyd, ond mae dal modd prynu rhai yn uniongyrchol gan Bitw ar ei safle Bandcamp. Mae’r albwm hefyd ar gael ar CD ac yn ddigidol.

Cymysgwyd yr albwm gan y cynhyrchydd Llŷr Pari, ac mae’r gwaith mastro wedi’i wneud gan Iwan Morgan. Mae’r gwaith dylunio trawiadol ar gyfer y clawr wedi’i greu gan Huw Gwynfryn Evans. Yn ogystal â Gruff ei hun, y cerddorion eraill sydd wedi cyfrannu at yr albwm ydy Mari Morgan ac Owain Rhys Lewis (lleisiau cefndir), Elen Ifan (cello) a Branwen Haf (clarinet).

Mae Bitw wedi derbyn tipyn o sylw’n ddiweddar tu hwnt i’r cyfryngau Cymraeg arferol, gan gynnwys yn y cylchgrawn cerddoriaeth uchel ei barch, Shindig Magazine a roddodd adolygiad pedair seren iddo.