Rhyddhau Bocs set Frizbee

Mae Recordiau Côsh wedi penderfynu rhyddhau casgliad bocs-set o holl albyms Frizbee, sef cyn fand rheolwr y label, Ywain Gwynedd.

Ffurfiodd Frizbee yn 2003, gan ddod yn un o fandiau mwyaf poblogaidd y sin Gymraeg mewn dim o dro diolch i’w tiwns bachog a pherfformiadau byw egniol.

Yws Gwynedd oedd gitarydd a chanwr y grŵp gydag Owain Jones, fu’n aelod o Masters in France yn ddiweddarach, ar y gitâr fas a Jason Hughes ar y drymiau.

Dros y bum mlynedd ganlynol bu’r grŵp yn hynod boblogaidd gan gigio’n ddi-baid a hedleinio rhai o gigs mwyaf y wlad, gan gynnwys Maes B a Sesiwn Fawr Dolgellau pan oedd yr ŵyl yn ei hanterth.

Ar ôl treulio cyfnod fel band ‘llawn amser’ penderfynodd Frizbee chwalu ar ddiwedd 2008 gan chwarae eu gig olaf yng Nghlwb Rygbi Dolgellau yn Rhagfyr y flwyddyn honno.

Atgyfodiad

Ffurfiwyd Recordiau Côsh yn wreiddiol er mwyn rhyddhau cerddoriaeth Frizbee yn annibynnol, ond atgyfodwyd y label wrth i Yws Gwynedd ddychwelyd i’r llwyfan a rhyddhau ei gynnyrch unigol cyntaf, sef yr albwm ‘Codi / \ Cysgu’ yn 2014.

Erbyn hyn mae Yws wedi camu nôl o’r llwyfan ac yn canolbwyntio ar hyrwyddo cynnyrch artistiaid eraill gyda’r label, gan gynnwys rhai o grwpiau mwyaf poblogaidd y sin ar hyn o bryd – Fleur de Lys, Alffa, Gwilym a Lewys.

Ond, er ei fod yn brysur yn datblygu talent presenol ac y dyfodol, mae’r cerddor wedi penderfynu troi’r cloc yn ôl rhywfaint a rhyddhau bocs-set o albyms Frizbeen mewn pryd i’r Nadolig.

“Mae Recordiau Côsh yn cymud mwy a mwy o fy amser yn ddiweddar ac mae’n braf cael neud o fel swydd llawn amser mwy neu lai” meddai Yws Gwynedd wrth Y Selar.

“Gan fy mod i’n awyddus i ddatblygu’r label i’w llawn botensial dwi wastad yn meddwl am bethau pellach fedra’i wneud – er bod Côsh wedi cael llwyddiant yn y farchnad ffrydio efo bandiau poblogaidd fel Gwilym, Alffa a Fleur De Lys, mae ’na dal rhywfaint o alw am CDs.

“Gan fod dal stoc o CDs Frizbee ar gael, nes i benderfynu, gyda chaniatad Jason ac Owain o Frizbee, i’w rhoi nhw mewn pecyn arbennig.

“Fysa nhw’n neud anrheg ‘dolig eitha neis a does ’na ddim ond nifer cyfyngedig ar gael.”

Mae’r pecyn arbennig yn cynnwys y 4 albwm llawn a ryddhawyd gan Frizbee, sef:

  • Hirnos – 2004 (Stiwdio Sylem – Cynhyrchydd : Geraint Jones)
  • Pendraw’r Byd – 2006 (Stiwdio Sylem – Cynhyrchydd : Geraint Jones)
  • Yn Fyw yn Maes B – 2006 (Maes B, Wyddgrug – Peirianydd : Sir Jez White)
  • Creaduriaid Nosol – 2008 (Stiwdio Ferlas – Cynhyrchydd : Rich James Roberts)

Os ydach chi ffansi ffics bach o nostalgia am Frizbee, be am ddarllen ein cyfweliad gyda’r band yn rhifyn Y Selar Mehefin 2006?!