Rhyddhau caneuon cynnar Maharishi yn ddigidol

Mae label Recordiau Sain wedi rhyddhau caneuon dau albwm cyntaf y grŵp Maharishi yn ddigidol am y tro cyntaf.

Ffurfiodd Maharishi ym Mangor ym 1998, ac roeddent yn weithgar nes tua 2006 cyn chwalu.

Rydan ni eisoes wedi clywed eu bod yn ail-ffurfio ar gyfer gig ar lwyfan y maes yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst fis Awst eleni – nhw fydd y prif fand ar y llwyfan ar nos Sadwrn gyntaf y Steddfod. Ac i gyd-fynd â’r comeback mae Sain wedi rhyddhau’r albyms Stafell Llawn Mŵg a Merry Go Round i’w ffrydio a lawr lwytho’n ddigidol ers dydd Mercher diwethaf, 12 Mehefin.

Band coleg Bangor

Ffurfiodd Maharishi’n wreiddiol wrth i Rich Durrell, Euron ‘Jôs’ Jones a Gwilym Davies gyfarfod yn y coleg ym Mangor yn 1998.  Yn fuan wedyn ymunodd Rhodri Evans ar yr allweddellau ac am gyfnod ar y cychwyn, Eurig Williams o Lanrwst – ffrind ysgol i Jôs – fu’n drymio.

Erbyn i’r band ddechrau recordio eu halbwm cyntaf, Stafell Llawn Mŵg, yn stiwdio Sain yn Llandwrog gyda’r cynhyrchydd, y diweddar Les Morrison, roedd Rhydwen Mitchell wedi ymuno ar y drymiau.

Mae Jôs yn gyfarwydd fel gitarydd i fand Gai Toms, ac fel chwaraewr gitâr bedal ddur i Cowbois Rhos Botwnnog ymysg eraill. Mae Rhydwen hefyd yn gyfarwydd fel drymiwr gyda Bob Delyn a’r Ebillion am flynyddoedd.

Albyms cyntaf

Recordiwyd Stafell Llawn Mŵg yn ystod mis Medi a Thachwedd 1999, ac yn dilyn rhyddhau’r albwm enillodd Maharishi wobr ‘Band y Flwyddyn’ yng ngwobrau roc a pop Radio Cymru 2000, gyda’r gân ‘Tŷ ar y Mynydd’ o’r albwm yn dod i frig rhestr ‘Mawredd Mawr’ Radio Cymru yn 2003.

Erbyn recordio’r ail albwm sef ‘Merry Go Round’ roedd Maharishi wedi hen sefydlu eu hunain. Recordiwyd y casgliad mewn stiwdio newydd yn Waunfawr ger Caernarfon gyda Les Morrison a Sam Durrant yn cynhyrchu a pheiriannu.

Yn sgil y caneuon Saesneg ar ‘Merry-go-round’ cafodd Maharishi eu noddi gan y cwmni dillad mynydda ‘Stone Monkey’ a thrwy’r cwmni hwn daeth cyfle iddynt gigio yn Llundain.

Wrth gigio a hyrwyddo’r ail albwm, ymunodd y drymiwr Dion Hughes o Fethesda â’r band. Yn ystod y cyfnod yma symudodd y band i Gaerdydd a recordiwyd yr EP Keep your ears to the Ground yn stiwdio Le Mons yng Nghasnewydd ac yn stiwdio SAIN, Llandwrog gyda’r cynhyrchydd Mark Roberts gynt o Catatonia. Hefyd ymunodd Danny Morrison i’r band fel y pedwerydd drymiwr. Rhyddhawyd eu trydydd albwm ‘Plan B’ yn 2006.

Mae’r ddau albwm cyntaf wedi eu cyhoeddi ar y llwyfannau digidol arferol.