Mae Carys Eleri wedi rhyddhau casgliad o holl ganeuon ei sioe ‘Cer i Grafu…Sori…Garu!’ ddydd Gwener diwethaf, 28 Tachwedd.
‘Cer i Grafu…Sori…Garu!’ ydy fersiwn Gymraeg o’r sioe gomedi gerddorol boblogaidd gan Carys, ‘Lovecraft (Not the sex shop in Cardiff).
Mae’r sioe wedi teithio’n eang gan gasglu gwobrau lu yn y broses ac mae themau’r sioe yn cynnwys niwrowyddoniaeth, cariad ac unigrwydd.
Nawr mae’r cyfle wedi dod i glywed taith gerddorol Carys trwy ei bywyd lliwgar ar yr hyn sy’n cael ei ddisgrifio fel albwm, ‘gysyniadol gomedi-gerddorol-wyddonol’.
O ddyddiau’r ‘Magic Taxi’ i atgofion y ‘Tit Montage’ mae’r caneuon yn siŵr o wneud i chi chwerthin, yn ogystal ag ystyried a dadansoddi effaith negyddol unigrwydd ar gymdeithas.
Yn cyfuno hanesion o dor-cariad, uchafbwyntiau ac isafbwyntiau perthnasau carwraethol, mae Carys Eleri yn canu, rapio a beltio ei stori gyda digonedd o bersonoliaeth, comedi a charedigrwydd.
Mae’r gerddoriaeth yn amrywiol dros ben ac yn cynnwys caneuon jazz, grime, hip-hop a power ballads y 1980au.
Recordiwyd yr albwm yn stiwdio GoldHill gyda ffrind Carys, y cynhyrchydd cerddoriaeth Branwen Munn. Label recordiau Lwcus T sy’n rhyddhau’r casgliad ar yr holl lwyfannau digidol arferol.