Rhyddhau EP R. Seiliog – ‘Folds’

Mae’r artist electronig o Sir Ddinbych, R.Seiliog, wedi rhyddhau ei EP newydd heddiw, dydd Gwener 1 Tachwedd.

Rhyddhaodd sengl o’r casgliad byr, ‘White Beam’, fel tamaid i aros pryd wythnos diwethaf.

Wedi’i gynhyrchu yn stiwdio Twelfth Vault yng nghysgod Cadair Idris, mae cyfle cyntaf i weld y fideo ar gyfer y trac ar wefan God is the TV.

Gellir dehongli’r fideo cythryblus psych ar gyfer y prif drac fel arsylwad ar y niwl o ’wybodaeth’ anghywir sy’n cael ei wthio arnom. Os nad yw’r fideo’n cael ei ddehongli yn y ffordd yma, naill ffordd neu’r llall, mae’r trac yn ddihangfa.

Mae’r EP yn ddilyniant i’r albwm Megadoze a ryddhawyd gan R. Seiliog llynedd.

Bydd ‘Folds’ ar gael ar bob platfform digidol ar 1 Tachwedd ar Imprint.