Mae Beth Celyn wedi cyd-weithio gyda’r cynhyrchydd Shamoniks i ryddhau sengl newydd sydd allan ers dydd Gwener 13 Rhagfyr.
Enw’r sengl ydy ‘Fenws’ ac mae allan ar label UDISHIDO, y label sy’n cael ei redeg gan Shamoniks, sef y cerddor Sam Humphreys sydd hefyd yn aelod o Calan, Pendevig a NoGood Boyo.
Dyma’r cynnyrch cyntaf i ymddangos gan Beth Celyn ers dechrau’r flwyddyn.
Cyn hynny, rhyddhawyd EP cyntaf y gantores o Ddinbych, sef ‘Troi’, ar label Sbrigyn Ymborth ar ddechrau 2018, ond mae wedi canolbwyntio ar berfformio’n fyw ers hynny.
Cyd-weithio
Mae Shamoniks wedi dal y llygad yn bennaf eleni diolch i’w waith gyda’r cerddor electroneg Eädyth – rhyddhawyd albwm o’r enw ‘Keiri’ gan y ddau ym mis Awst eleni.
Yn ôl yr wybodaeth gan y label mae sengl Beth Celyn x Shamoniks yn gydweithrediad creadigol â ddechreuodd gyda churiad drwm ac a orffennodd yn gân aml-haenog sy’n lleisio rhwystredigaethau yr oes sydd ohoni – o ‘golli hawliau’ i ‘godi moroedd’.
Mae’r gân yn un y gall pawb uniaethu â hi ac yn chwarae ar y ffin rhwng ‘sgrin a realiti’.
Mae’r gân yn cyfuno synnau gwerin cyfoes gydag elfennau electronig trwm.
‘Seren y Gweithwyr’ oedd Fenws yn hanesyddol yn ardal Llŷn. Pan roedd Fenws yn dod allan gyda’r nos, roedd y gweithwyr oedd allan yn y caeau yn gwybod i roi’r gorau i’w gwaith a throi am adref.
Dydi Fenws ddim yn disgleirio yn y gân. Mae’n symbol o’n hangen i barhau i weithio yn wyneb yr holl galedi.
Cyfarfu Sam â Beth Celyn wrth recordio albwm y band gwerin Vrï ‘Tŷ Ein Tadau’.
Dyma hefyd yr ail gân i Beth ryddhau eleni ar ôl cyhoeddi ‘Llwybrau’ ym mis Chwefror gyda Jack Davies.
Dyma fideo sesiwn o’r trac newydd a gyhoeddwyd gan Lŵp wythnos diwethaf: