Mae’r gantores o Fethel, Casi, wedi ryddhau sengl ddiweddaraf ei phrosiect newydd Casi and The Blind Harpist.
Fersiwn newydd o’r gân Gymraeg enwog a phoblogaidd, ‘Myfanwy’, ydy’r sengl newydd ac fe’i rhyddhawyd ddydd Gwener diwethaf, 2 Awst.
Mae’r gân yn cynnwys lleisiau Côr Seiriol unwaith eto, fel y trac ‘Aderyn’ a ymddangosodd ar EP Casi & The Blind Harpist yn gynharach yn y flwyddyn.
Rhyddhawyd yr EP, ‘Sunflower Seeds’ ym mis Mawrth ar label amlwg Chess Club sydd wedi bod yn gyfrifol am ryddhau cerddoriaeth gan enwau amlwg fel Wolf Alice, Jungle a Mumford & Sons, sydd wedi rhyddhau’r EP.
Mae sŵn prosiect diweddaraf Casi yn blethiad unigryw o gerddoriaeth Celtaidd a phop electronig, gyda llais unigryw ac anhygoel Casi’n ganolbwynt i’r cyfan.