Rhyddhau Pang! gan Gruff Rhys

Mae Gruff Rhys wedi rhyddhau ei albwm diweddaraf ‘Pang!’ ar label recordiau Rough Trade.

Dyma’r albwm gyfan gwbl Gymraeg cyntaf ganddo ers ei record hir unigol cyntaf ‘Yr Atal Genhedlaeth’ a ryddhawyd yn 2005.

Mae’r albwm 9 trac allan ar label Rough Trade Record ac ar gael yn ddigidol, ar CD, ar feinyl  a feinyl deluxe nifer cyfyngedig – neis iawn wir!

Recordiwyd y casgliad newydd yng Nghaerdydd, ond mae wedi’i gynhyrchu a chymysgu gan y cynhyrchydd Muzi (Muziwakhe Mazibuko), sy’n gynhyrchydd uchel iawn ei barch, yn Johannesburg, De Affrica.

Mae’r label yn disgrifio’r casgliad fel ‘albwm pop Cymraeg, gydag ambell bennill o Zulu, a theitl Saesneg’.

“Mae ‘Pang!’ yn gân iaith Gymraeg gydag enw Saesneg” eglura Gruff Rhys.

“Mae defnyddio’r gair Saesneg pang mewn cân Gymraeg efallai ymddangos braidd yn weird ond am wn i mae o fel defnyddio gair Ffrangeg ‘Magazine’ mewn cân Saesneg.  Yn yr ystyr ei fod o ychydig yn rhodresgar, ond yn hollol dderbyniol.”

Da di Gruff!

Dyma’r fideo ar gyfer y gân ‘Pang!’: