Mae Worldcub wedi rhyddhau eu sengl ddwbl newydd, ‘Here Comes the Moonshadow / Hel y Hadau’, ers dydd Gwener diwethaf, 4 Hydref.
Dyma gynnyrch cyntaf y grŵp ers newid eu henw o CaStLeS, ac mae’r fideo ar gyfer un o’r traciau, ‘Here Comes the Moonshadow’ i’w weld hefyd ers dydd Gwener ar wefan amlwg God is the TV. Cynhyrchwyd y fideo gan ERFYL Productions.
Dau frawd, Cynyr a Dion Hamer ydy aelodau craidd Worldcub, ynghyd â Carwyn Ginsberg (sydd hefyd yn aelod o Hippies v Ghosts a Fauna Twin) ar y gitâr a Dion Wyn Jones (Alffa) ar y gitâr fas hefyd yn aelodau bellach.
I goroni penwythnos cyffrous, dros y penwythnos diwethaf roedd y grŵp yn perfformio yn eu gig rhyngwladol cyntaf yn BreakOut West Festival, Canada mewn partneriaeth gyda FOCUS Wales a Chronfa Rhyngwladol PRS.
Dywed y grŵp fod ail albwm ar y ffordd ganddynt, gyda’r sengl ddwbl newydd yn flas cyntaf o’r hyn y gallwn ddisgwyl ar y record hir.
Mae’r albwm newydd wedi’i recordio yn eu cartref yng Ngheunant, ger Caernarfon, ac mae disgwyl iddo gael ei ryddhau ar ddechrau 2020.