Mae sengl newydd Blodau Papur allan ers dydd Gwener diwethaf, ac yn rhagflas o albwm y grŵp talentog fydd yn cael ei ryddhau gan label Recordiau I KA CHING ar 2 Awst.
‘Mynd i ‘Neud O’ ydy enw sengl diweddaraf y grŵp sy’n cael eu harwain gan lais arbennig Alys Williams, ac mae’n dilyn y sengl ddwbl ‘Llygad Ebrill / Tyrd Ata i’ a ryddhawyd ddechrau mis Ionawr ac yna ‘Yma’ a ryddhawyd ddiwedd mis Mehefin.
Bydd yr albwm, sy’n cael ei ryddhau mewn pryd i’r Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst, yn rhannu enw’r grŵp ac yn cloi cyfnod hir o recordio gan Blodau Papur. Mae’r albwm yn gasgliad o’r caneuon sydd wedi’i rhyddhau fel senglau, caneuon eraill fydd yn gyfarwydd o’u setiau byw a chaneuon newydd sbon.
Recordiwyd yr albwm yn fyw yn stiwdio Drwm er mwyn dal egni a pherthynas y band gyda’i gilydd.
Mae Blodau Papur yn paratoi ar gyfer taith o amgylch Cymru i hyrwyddo’r casgliad newydd. Clwb Ifor Bach sy’n trefnu’r daith ac mae’n ymweld ag Aberystwyth, Caerdydd, Aberteifi, Wrecsam a Chaernarfon ym mis Hydref eleni. Tocynnau ar werth ar wefan Clwb Ifor Bach.