Mae Al Lewis wedi rhyddhau’r trac cyntaf o’i albwm cysyniadol newydd fydd allan ym mis Chwefror y flwyddyn nesaf.
Te yn y Grug yw albwm cysyniadol newydd y cerddor a’r canwr poblogaidd ac fe fydd yn cael ei ryddhau ar finyl ac yn ddigidol ar 21 Chwefror 2020.
Ddydd Gwner, rhyddhawyd y sengl gyntaf o’r albwm, sef ‘Cân Begw’, ar y llwyfannau digidol arferol.
Bydd cyfle cyntaf i weld y fideo ar gyfer y sengl newydd ar wefan Y Selar bore fory, dydd Mercher 11 Rhagfyr.
Kate Roberts yn ysbrydoli
Ysbrydolwyd y geiriau ar gyfer yr albwm, a ysgrifennwyd gan Karen Owen a Cefin Roberts, gan y gyfrol o straeon o’r un enw gan yr awdures enwog Dr Kate Roberts a gyhoeddwyd 60 mlynedd yn ôl ym 1959.
Cafodd caneuon ‘Te yn y Grug’ eu perfformio gyntaf fel rhan o’r sioe gerdd hynod lwyddiannus Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst 2019.
Gwerthwyd pob tocyn i’r sioe yma ymhen ychydig oriau o’u rhyddhau gan ei gwneud hi’r sioe gyflyma yn hanes yr Eisteddfod i werthu allan.
Gelwir Dr Kate Roberts yn ‘Frenhines ein Llên’ ac mae rhan sylweddol o’i gwaith wedi’i seilio ar ei chynefin a’i bywyd yn tyfu fyny ar waelod llethrau Moel Tryfan yn y pentref bach Rhosgadfan yng Ngwynedd.
Mae’r stori yma’n dilyn bywydau tair merch – Begw, Winni a Mair – â’u magwraeth yn un o gymunedau chwarelyddol Gogledd Cymru ar droad yr 20fed ganrif. Mae’n stori gyfarwydd am golled, tlodi, crefydd, cymuned a pherthyn.
Taith Wanwyn
Yn ogystal â’u rhyddhau ar record hir, bydd Al yn dod â‘r caneuon yma i’r llwyfan yng Ngwanwyn 2020.
Bydd y sioeau byw hyn wedi’u rhannu’n ddwy ran: bydd Al yn ystod y rhan gyntaf yn ymweld â’i ôl-gatalog drwy berfformio set acwstig unigol unigryw. Yna, yn yr ail ran bydd cerddorion eraill a chôr lleol yn ymuno ag Al i berfformio’r albwm Te yn y Grug yn ei gyfanrwydd.
Cafodd yr albwm ei recordio dros gyfnod o bum niwrnod yn Stiwdio Sain yn Llandwrog ym mis Awst 2019 gydag amrywiaeth o artistiaid talentog gan gynnwys hefyd gôr o aelodau sioe’r Eisteddfod.
Mae modd rhag archebu’r albwm ar-lein nawr.
Dyma ddyddiadau’r daith yn y Gwanwyn:
21 Chwefror – Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth
27 Chwefror – Galeri, Caernarfon
6 Mawrth – Theatr Mwldan, Aberteifi
27 Mawrth – Neuadd Dwyfor, Pwllheli
28 Mawrth – Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug