Rhyddhau sengl gyntaf Ynys

Mae prosiect cerddorol newydd cyn aelod Radio Luxembourg, Race Horses ac Endaf Gremlin wedi rhyddhau ei sengl gyntaf, ‘Caneuon’.

Ynys ydy enw prosiect diweddaraf Dylan Hughes, a ddaw yn wreiddiol o Aberystwyth ond sydd bellach wedi ymsefydlu yng Nghaerdydd.

Mae Ynys wedi ymuno â label mwyaf bywiog Cymru ar hyn o bryd, Recordiau Libertino, ac yn ôl y label mae cerddoriaeth Ynys yn cyfuno gallu melancolaidd Dylan gyda chaneuon chwareus i greu casgliad cyfoethog o harmonïau a chaneuon pop seicadelig.

Roedd Dylan, ynghyd ag aelod craidd arall Radio Luxembourg, Meilyr Jones, yn chwarae ym mand Euros Childs am gyfnod hefyd, ac mae dylanwad grŵp Euros, Gorky’s Zygotic Mynci, i’w glywed yn glir ar sŵn Ynys, ynghyd â grwpiau eraill fel Velvet Underground, Elliot Smith a Teenage Fanclub.

Er na fu’n aelod o unrhyw grwpiau dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae’n amlwg fod Dylan wedi parhau i gyfansoddi ac caneuon Ynys wedi’i seilio ar gannoedd o recordiadau llais mae wedi’u casglu dros y pedair blynedd ddiwethaf.

‘Caneuon’ ydy’r cynnyrch cyntaf i Dylan ryddhau ers ei ddyddiau gyda Race Horses. Mae alaw fachog a chorws mawr y sengl yn gwneud hon yn gân hynod o gofiadwy – cân hapus a hafaidd gyda theimlad retro iawn iddi.

Recordiwyd ‘Caneuon’ yn stiwdio Tŷ Drwg gyda’r cynhyrchydd amlwg Frank Naughton. Fe’i mastrwyd gan Iwan Morgan yn Lerpwl.

Mae’r sengl eisoes wedi cael ymateb da ar nifer o flogiau a gwefannau cerddoriaeth amlwg gan gynnwys ‘WhiteLight/WhiteHeat’, ‘GIGsoup’ a ‘For The Rabbits’.