Branwen ‘Sbrings’ Williams ydy enillydd gwobr newydd ‘Seren y Sin’ Gwobrau’r Selar eleni.
Cyhoeddwyd y newyddion fel sypreis i Branwen wrth iddi ymuno â Lisa Gwilym fel gwestai ar ei rhaglen radio heno (nos Fercher 13 Chwefror).
Roedd Branwen wedi ei gwahodd ar y rhaglen i sôn am y ffaith fod label I KA CHING yn rhyddhau holl cynnyrch eu hôl gatalog yn ddigidol, ond mewn esgus da oedd hynny i dorri’r newyddion mawr iddi!
Mae Branwen yn weithgar yn y diwydiant cerddoriaeth Gymraeg ers sawl blwyddyn. Mae’n gerddor amlwg, yn aelod o Siddi, Blodau Papur, Cowbois Rhos Botwnnog, ac yn achlysurol Candelas.
Ond dros y blynyddoedd diwethaf mae wedi dod yn fwy fwy amlwg fel hyrwyddwr cerddoriaeth.
Mae Branwen bellach yn un o dri chyfarwyddwrth label Recordiau I KA CHING, sydd wedi sefydlu eu hunain fel un o brif labeli Cymru. Mae hefyd yn weithgar yn trefnu gigs yn ardal Y Bala a Llanuwchllyn, gan gynnwys y gigs rheolaidd hynod lwyddiannus a gynhaliwyd yn Neuadd Buddug, Y Bala nes yn ddiweddar.
Dyma’r tro cyntaf i wobr Seren y Sin gael ei chynnwys fel rhan o bleidlais Gwobrau’r Selar. Roedd Branwen ar restr fer amrywiol oedd yn cynnwys y cerddor, cynhyrchydd a rheolwr label Sbrigyn-Ymborth, Aled Hughes, ynghyd â’r cyflwynydd radio ysbyty, Michael Aaron Hughes.
Dyma’r cyhoeddiad diweddaraf mewn 4 o wobrau’r Selar eleni sy’n cael eu cyhoeddi ymlaen llaw eleni, mewn newid bach i’r drefn arferol. Mae enillydd Fideo Gorau a Gwaith Celf Gorau eisoes wedi cyhoeddi, a bydd cyhoeddiad am y wobr Hyrwyddwr Gorau cyn diwedd yr wythnos hefyd.
Bydd enillwyr gweddill y Gwobrau’n cael eu cyhoeddi dros y penwythnos ar 15-16 Chwefror yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth.