‘Sbwriel Gwyn’ – Sengl i aros pryd gan Los Blancos

Mae Los Blancos wedi rhyddhau sengl newydd wrth iddynt baratoi i ryddhau eu halbwm cyntaf ddydd Gwener yma.

Rhyddhawyd y gân ‘Sbwriel Gwyn’ ddydd Gwener diwethaf, 20 Medi – y trac sy’n rhannu enw gydag albwm y band sydd allan ddydd Gwener yma, 27 Medi.

Yn ôl y label, Recordiau Libertino, mae ‘Sbwriel Gwyn’ yn deitl perffaith ar gyfer albwm cyntaf Los Blancos. Mae mwmian tawel Gorllewin Cymru a’r cyfeillgarwch rhwng ffrindiau oes yn themâu cyson trwy gydol y sengl a’r albwm.

“Mae ‘Sbwriel Gwyn’ yn derm ry’n ni’n defnyddio fel ffrindie pan ’ma rhywun wedi neud rhwbeth stiwpid – rhwbeth sy’n digwydd yn aml iawn” meddai prif ganwr Los Blancos, Gwyn Rosser.

Bydd yr albwm yn cael ei ryddhau ar ddydd Gwener 27 Medi, gyda gig lansio yng Nghlwb Ifor Bach y noson honno.

I gyd-fynd â’r sengl newydd, roedd cyfle cyntaf i weld fideo ‘Sbwriel Gwyn’ ar wefan Louder than War ddydd Gwener diwethaf.

Dim syndod i bawb sydd wedi bod yn dilyn gyrfa Los Blancos mai Nico Dafydd sydd wedi cyfarwyddo’r fideo diweddaraf – mae Nico wedi gweithio’n rheolaidd gyda’r band ar eu fideos dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

“Mae’r band wastad wedi bod eisiau saethu fideo ble maen nhw ‘jyst yn gwneud nonsens’, felly roedd angen ffeindio’r gân iawn” eglura Nico.

“Yn syml, mae ‘Sbwriel Gwyn’ yn awdl i fod yn dod o gefn gwlad Gorllewin Cymru, delfrydol ar gyfer darganfod adfail carafan ar fferm a threulio diwrnod yno.

“Fe wnaethon ni  saethu’r mwyafrif o’r fideo gyda dau gamera, ochr yn och, i gael onglau ychydig yn wahanol o’r un peth.”