Bydd nifer o ddarllenwyr yn cofio ein Seiat yn Y Selar i lansio Llyfr Y Selar ym mis Rhagfyr 2017. Digwyddiad ‘cudd’ cofiadwy iawn oedd hwnnw yn Selar y Llyfrgell Genedlaethol yng nghwmni Yws Gwynedd, Rhys Gwynfor a nifer o westai eraill, ac a’i darlledwyd ar Facebook Live.
Roedd galw gan lawer am fwy o ddigwyddiadau tebyg, ac ers hynny rydym wedi bod yn edrych am gyfle priodol i gynnal seiat arall, a dyma’r cyfle perffaith wedi codi!
Nos Iau yma am 19:00 byddwn yn cynnal Seiat arbennig fel lansiad dwbl ar gyfer llyfr hanes newydd Y Cyrff, ynghyd ag ail-gyhoeddiad EP eiconig Yr Atgyfodi.
Mae’r gyfrol newydd gan Wasg Carreg Gwalch yn benthyg enw unig albwm llawn Y Cyrff, ‘Llawenydd Heb Ddiwedd’, fel teitl ar gyfer y gyfrol ac Uwch Olygydd Y Selar, Owain Schiavone, sydd wedi cyd-ysgrifennu’r hanes gyda’i dad Toni oedd yn ddylanwad mawr ar Y Cyrff yn y blynyddoedd cynnar.
Recordiau I KA CHING sydd wedi ail-gyhoeddi Yr Atgyfodi, sef EP ardderchog y grŵp o Lanrwst a ryddhawyd yn wreiddiol union ddeng mlynedd ar hugain yn ôl pan ymwelodd yr Eisteddfod Genedlaethol â’r dref yn Nyffryn Conwy ddiwethaf. Mae’r casgliad byr yn cynnwys anthem fwyaf Y Cyrff, ‘Cymru, Lloegr a Llanrwst’ ynghyd â chlasuron eraill fel ‘Weithiau/Anadl’ ac ‘Y Boddi’.
Yng ngwir draddodiad Seiat yn Y Selar, mae gwybodaeth am union weithgarwch y lansiad yn gyfrinachol, ond gallwn addo sgyrsiau difyr a cherddoriaeth fyw o leoliad dirgel yn Llanrwst. Gallwch wylio’r cyfan yn fyw trwy Facebook Live ar dudalen Facebook Y Selar. Manylion diweddaraf ar ddigwyddiad Facebook y lansiad.