Bydd y grŵp ifanc o Gaerydd, SYBS, yn rhyddhau eu sengl gyntaf ddydd Gwener yma, 19 Ebrill.
‘Paid Gofyn Pam’ ydy enw’r sengl newydd a bydd yn cael ei rhyddhau’n ddigidol ar label Recordiau Libertino.
Ffrwydrodd y grŵp ar y sin yn ystod haf 2018 wrth iddyn nhw gipio teitl Brwydr y Bandiau Radio Cymru / Maes B ar stepen eu drws ym Mae Caerdydd fis Awst.
Y Sybs oedd enw’r grŵp bryd hynny, ond penderfynwyd i newid yr enw i SYBS yn gynharach yn y flwyddyn eleni.
Carreg Filltir
Aelodau SYBS ydy Osian Llŷr, Herbie Powell, Dafydd Adams a Zach Headon ac maen nhw’n cael eu disgrifio fel band pync-indî-slacyr ffrwydrol o’r brifddinas.
Maen nhw’n sicr wedi gosod seiliau cryf ar gyfer eu sengl gyntaf gan ddewis i weithio gyda’r cynhyrchydd Kris Jenkins, sy’n gyfarwydd am ei waith gwych gyda’r Super Furry Animals, Cate Le Bon, Los Blancos ac yn fwy diweddar EP cyntaf Papur Wal. Yn ôl y label mae wedi llwyddo i ddal egni gwyllt y band wrth berfformio’n fyw ar y sengl.
Yn ôl Osian Llŷr o’r grŵp, roedd ysgrifennu ‘Paid Gofyn Pam’ yn garreg filltir iddo.
“Dwi’n credu es i ati yn fwriadol i ysgrifennu cân pop glasurol, roedd e’n drobwynt i mi’n bersonol wrth i mi sylweddoli nad oedd angen riffs enfawr na llwyth o fuzz i drio gwneud i rwbeth swno’n drwm neu’n emosiynol”
Yn ôl y label mae ‘Paid Gofyn Pam’ yn gyfuniad blasus o gordiau Sonic Youth, tyndra pigog Wire a chrefft felodaidd Pixies ond eto, yn nodweddiadol o sŵn unigryw SYBS. O ganlyniad, mae’n ei gwneud hi’n sengl gyntaf ysgytwol.
Fel rhagflas i ryddhau’r seng, mae fideo ar gyfer y trac wedi’i ryddhau ar lwyfannau digidol Hansh ac Ochr 1 ddydd Gwener diwethaf – fideo wedi’i gynhyrch gan griw The Shoot.
Joiwch…