Sengl Catrin Herbert, ac EP ar y ffordd

Mae’r gantores o Gaerdydd, Catrin Herbert wedi rhyddhau sengl newydd ddydd Gwener diwethaf, 19 Gorffennaf.

A’r newyddion pellach gan Catrin ydy y gallwn ni ddisgwyl EP newydd ganddi’n fuan hefyd.

‘Dere Fan Hyn’ ydy enw’r sengl newydd, ac mae allan ar y llwyfannau digidol arferol.

Mei Gwynedd sydd wedi cynhyrchu’r trac, ac mae Catrin wedi datgelu ei bod wedi bod yn cydweithio â’r cerddor a chynhyrchydd uchel ei barch ers misoedd.

Yn ôl Mei, sydd hefyd yn rheoli label JigCal, gallwn ddisgwyl gweld yr EP yn cael ei ryddhau tua mis Hydref.

Dyma ‘Dere Fan Hyn’: