Wrth i’r Eisteddfod Genedlaethol baratoi i ymweld â Dyffryn Conwy, mae un o grwpiau ifanc mwyaf cyffrous yr ardal, Serol Serol, yn paratoi i ryddhau eu sengl ddwbl newydd.
‘Iwtopia / Dau Funud’ ydy enw cynnyrch diweddaraf y grŵp pop gofodol a bydd allan ar label I KA CHING ar ddydd Gwener 26 Gorffennaf.
Mae ‘Iwtopia’ yn fynegiant o geisio cadw’n gadarnhaol mewn byd sydd i’w weld yn mynd a’i ben iddo – neu, yng ngeiriau’r band, “trio bod yn optimistic yn ganol y shit show ‘ma”.
Mae ‘Dau Funud’ yn saib offerynnol krautrock/pop gofodol i’r clustiau sy’n dwyn ysbrydoliaeth gan fandiau megis Kraftwerk.
Mae’r ddwy sengl yma’n rhan o gyfres o dair. Rhyddhawyd y gyntaf, ‘Pareidolia’, ym mis Mai eleni, ac fe ymddangosodd ar un o restrau chwarae Apple Music.
Bydd cyfle i weld Serol Serol yn perfformio ar lwyfan gigs Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst. Byddan nhw’n perfformio ar nos Lun, yng Ngwesty’r Eryrod yn Llanrwst gyda Gwilym ac Alffa yn perfformio ar yr un noson.
Dyma fideo sengl ddiwethaf y grŵp, ‘Pareidolia’, sydd wedi’i ffilmio gan griw Ochr 1 yng ngoruwch-ystafell yr hen fanc Midland ar sgwâr Llanrwst: