Sengl ddwbl Los Blancos allan ddechrau Chwefror

Bydd Los Blancos yn rhyddhau sengl ddwbl newydd ar label Libertion ddechrau mis Chwefror.

Y ddau drac ar y sengl ddwbl newydd ydy ‘Cadw Fi Lan’ a ‘Ti Di Newid’, a bydd y sengl allan yn ddigidol ar ddydd Gwener 8 Chwefror.

Recordiau Libertino sydd wedi bod yn gyfrifol am gyhoeddi holl gynnyrch Los Blancos hyd yma, sy’n cynnwys 5 trac a ryddhawyd fel senglau yn ystod 2018. Y label o Gaerfyrddin sy’n gyfrifol am ryddhau cynnyrch diweddaraf y grŵp lleol hefyd.

Roedd 2018 yn flwyddyn lwyddiannus i Los Blancos, blwyddyn a welodd y band cyffrous ‘slacker, pync’ yn gosod eu stamp ar y sin gerddorol yng Nghymru.

Cymaint oedd eu llwyddiant a thwf mewn poblogrwydd yn ystod 2018 nes eu bod wedi dewis ymysg yr unarddeg o artistiaid sy’n perfformio yng Ngwobrau’r Selar fis nesaf – bydd Los Blancos yn chwarae ar nos Sadwrn 16 Chwefror.

Bydd 2019 yn flwyddyn fawr iddyn nhw hefyd, gydag addewid o weld eu halbwm cyntaf hir ddisgwyliedig yn gweld golau dydd cyn yr haf.

Mae’r ddwy gân newydd yn gyferbyniol ond meddai Libertino fod modd clywed dylanwadau’r Velvet Underground, The Replacements ac Y Cyrff cynnar fel islais i sain anghymharol Los Blancos.

Un o ganeuon Los Blancos oedd ar frig rhestr 10 Uchaf caneuon 2018 Uwch Olygydd Y Selar, Owain Schiavone. A’r gân honno oedd yr ardderchog ‘Clarach’: