Mae wedi bod yn wythnos gofiadwy iawn i’r triawd ‘post-pync’ o Gaerfyrddin, Adwaith.
Wythnos diwethaf roedden nhw’n chwarae yng ngŵyl M pour Montreal yng Nghanada.
Yna, nos Fercher diwethaf (27 Tachwedd) fe gipiodd y grŵp y Wobr Gerddoriaeth Gymreig mewn seremoni yng Nghaerdydd – eu halbwm cyntaf, Melyn, ddaeth i’r brig o’r 12 albwm gwych oedd ar y rhestr fer eleni.
Hawdd anghofio yng nghanol yr holl gyffro eu bod nhw wedi rhyddhau sengl ddwbl wythnos diwethaf hefyd!
‘Orange Sofa’ a ‘Byd Ffug’ ydy enwau’r ddau drac newydd sydd wedi’u rhyddhau gan Recordiau Libertino ac roedd cyfle cyntaf i’w clywed ar wefan gerddoriaeth Clash Music.
Bydd y cyfle nesaf i weld y band yn gigio yng Nghymru ar 13 Rhagfyr, a hynny yn Tap House 72 yng Nghaerfyrddin.