Sengl ddwbl newydd gan Los Blancos

Mae Los Blancos wedi rhyddhau sengl ddwbl newydd ers dydd Gwener diwethaf, 6 Rhagfyr.

‘(Ddim yn) Grêt’ a ‘Blow it in my Mouth’ ydy’r ddau drac ar y sengl ddwbl.

Mae’r cyntaf o’r ddau drac yn un o ganeuon albwm cyntaf y grŵp o Gaerfyrddin, Sbwriel Gwyn, a ryddhawyd yn gynharach eleni.

Efallai bydd yr ail drac yn llai cyfarwydd, ond mae hefyd i’w ganfod ar fersiwn CD yr albwm fel trac bonws.

Rhyddhawyd Sbwriel Gwyn yn swyddogol gan label Recordiau Libertino ar 27 Medi eleni, ac mae wedi dal dychymyg a chalonnau niferus yng Nghymru a thu hwnt.

Gyda’u darluniau amrwd ond barddonol o fywyd person ifanc wedi’i leoli yng Nghaerfyrddin, mae Los Blancos diffinio eu datganiad cerddorol yn yr albwm yma.

Bydd cyfle i weld Los Blancos yn perfformio’n fyw nos Sadwrn nesaf, 14 Rhagfyr, a hynny yn gig ‘Plan B’ yn Tŷ Pawb, Wrecsam. Er hynny, mae’r tocynnau i gyd wedi eu gwerthu eisoes.

Dyma ‘(Ddim yn) grêt’: