Sengl gyntaf PRIØN allan heddiw

Mae’r ddeuawd canu gwlad amgen newydd PRIØN yn rhyddhau eu sengl gyntaf heddiw, 11 Hydref.

‘Bur Hoff Bau’ ydy enw’r sengl newydd gan y ddeuawd sy’n cynnwys un wyneb a llais cyfarwydd iawn i’r sin gerddoriaeth gyfoes yng Nghymru, ac un arall sy’ efallai’n fwy cyfarwydd ar lwyfannau mwy traddodiadol.

Pwy ydy PRIØN?

PRIØN ydy prosiect newydd Arwel Lloyd, neu Gildas i bawb sy’n dilyn y sin gerddoriaeth Gymraeg. Daw Arwel yn wreiddiol o Lansannan, ond mae bellach yn byw yn yr Hendy.

Daeth i’r amlwg yn gyntaf fel aelod craidd o Al Lewis Band, cyn mynd ati i ryddhau ei gerddoriaeth ei hun dan yr enw Gildas.

Mae’n adnabyddus fel gitarydd amryddawn ac wedi cyfansoddi llawer gydag Al Lewis Band ac Elin Fflur.

Celyn Llwyd Cartwright ydy hanner arall y ddeuawd gyfoethog. Yn wreiddiol o Ddinbych, a bellach yn astudio gradd meistr yng Nghaerdydd, mae hithau yn wyneb a llais adnabyddus i’r genedl.

Mae wedi perfformio ar lwyfannau ledled Cymru a thu hwnt gan gynnwys cyrraedd rownd derfynol Ysgoloriaeth Bryn Terfel yn 2018a chymryd rhan fel un o’r prif gymeriadau, ‘Wini’, yn y sioe gerdd Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst 2019, Te yn y Grug.

Gan ddisgrifio eu genre fel ’alt-country’, mae’r ddau wedi  uno i gyflwyno caneuon gwreiddiol, melodig a theimladwy i’r genedl, gyda ‘Bur Hoff Bau’ yn flas cyntaf o’r hyn sydd ganddynt i’w gynnig.