Sengl newydd gan Phil Gas a’r Band

Mae’r grŵp gwerin poblogaidd, Phil Gas a’r Band, wedi rhyddhau sengl newydd sydd ar gael i’w lawr lwytho nawr.

‘Mesen Fach’ ydy enw’r sengl newydd, sydd allan ar label Recordiau Aran.

Cyhoeddwyd yn gynharach yn y flwyddyn bod Tudur Huws Jones yn ymuno â’r grŵp wrth i’r gitarydd blaenorol, Dylan Wyn Evans, adael er mwyn canolbwyntio ar ei waith coleg.

Dywed y grŵp fod y sengl newydd yn ddathliad o’r ffaith bod Tudur bellach wedi ymuno fel aelod llawn amser.

Cyfraniad amlwg

Mae Tudur wedi bod yn un o gerddorion amlycaf Cymru ers sawl blwyddyn gan weithio gyda Dafydd Iwan, Bryn Fôn a Siân James, a hefyd yn aelod o’r grwpiau Cilmeri, 4 yn y Bar, Branwen a Gwerinos.

Er iddo gyfrannu at albwm cyntaf Phil Gas a’r Band, ‘O Nunlle’, mae ei gyfraniad i’r grŵp yn amlwg ar ‘Mesen Fach’ gyda sŵn ei banjo i’w glywed yn glir.

Mae’r gân yn trafod pwysigrwydd yr amgylchedd a byd natur mewn arddull gelfydd a hudolus.

Yn ôl canwr y grŵp, Phil Williams, maent wrthi’n gweithio ar albwm newydd ar hyn o bryd gyda bwriad o ryddhau erbyn hydref 2020.