Sengl newydd Geraint Rhys ar y ffordd

Bydd y cerddor dwy-ieithog Geraint Rhys yn rhyddhau sengl newydd ar 11 Hydref.

Mae Geraint yn gyfarwydd iawn am ei ganeuon protest, ac yr un naws sydd i’r cynnyrch diweddaraf ganddo.

‘Stop the War’ ydy enw’r trac newydd, ac mae wedi cyd-weithio gyda’r artist o Rwsia, Amy Kour, i greu’r gwaith celf trawiadol ar gyfer y sengl.

Rydan ni’n hoff iawn o’r hyn mae Geraint yn gwneud, a byddwch yn cofio i ni ddangos ei fideo ar gyfer y sengl ‘Dilyn’ yma ar wefan Y Selar cyn unrhyw le arall llynedd.

Dyma’r ardderchog ‘Dilyn’: