Bydd y band ifanc o Gaerdydd, Hyll, yn rhyddhau eu sengl newydd ‘Womanby’ ar label JigCal ddydd Gwener yma, 8 Chwefror.
Yn dilyn rhyddhau eu EP cyntaf gyda’r un label nôl yn 2017, mae’r band yn ôl gyda’r sengl sy’n trafod eu cartref ysbrydol yng Nghaerdydd – Womanby Street, neu Stryd y Fuwch Goch, lle mae nifer o leoliadau cerddoriaeth amlwg y brifddinas gan gynnwys Clwb Ifor Bach.
Yn briodol iawn, mae modd gwrando ar y sengl nawr, cyn y dyddiad rhyddhau, ar wefan Clwb Ifor Bach.
Wedi’i recordio yn Stiwdio JigCal gyda Mei Gwynedd yn cynhyrchu, mae’r gân yn dangos agwedd ifanc, chwareus a thafod yn y boch y band wrth iddynt adrodd hanesion diwrnod arferol lawr ar y Stryd Y Fuwch Goch.
Bydd Hyll yn chwarae nesaf yn y Bunkhouse, Abertawe fel rhan o gig Pyst, Libertino a Swansea Music Scene i ddathlu Dydd Miwsig Cymru ddydd Gwener, gydag Y Sybs a Los Blancos hefyd yn perfformio.
Er bod y gân yn dweud “Nai gal ti ar y guestlist os gai fod ar un ti” bydd dim angen taro bargen gyda Hyll wrth drio cael mynediad i’r gig penodol yma, gan fod y gig am ddim i bawb!