Sengl newydd Melin Melyn

Mae’r grŵp newydd Melin Melyn wedi rhyddhau sengl newydd ‘Short Haired Lady’ ers dydd Gwener diwethaf, 4 Gorffennaf.

Mae’r grŵp, sy’n cynnwys aelodau o Gaerdydd a Llundain, yn cael eu harwain gan y prif ganwr enigmatig Gruff Glyn ac wedi dal y llygad mewn sawl gig yn ddiweddar gan gynnwys Focus Wales yn Wrecsam a Twrw Trwy’r Dydd yng Nghlwb Ifor Bach.

Aelodau eraill y band ydy Will Llywelyn Barrett, Cai Dyfan a Garmon Rhys.

Y grŵp eu hunain sydd wedi bod yn gyfrifol am holl waith recordio a chynhyrchu’r sengl newydd fel yr eglura Garmon:

“Recordiodd Cai’r drums gyntaf, wedyn cafodd pob dim arall ei wneud yn ‘stafell wely Gruff yma’n Llundain.”

Y newyddion da pellach ydy y gallwn ni ddisgwyl mwy o gynnyrch gan Melin Melyn yn fuan – maen nhw’n gobeithio rhyddhau dwy sengl arall cyn diwedd yr haf, cyn bwrw ymlaen i recordio EP cyn diwedd yr haf hefyd.

Mae ambell gig yn y dyddiadur hefyd, gan gynnwys Gŵyl Hub yng Nghaerdydd ar 25 Awst a Gŵyl Sŵn ar 20 Hydref.