Mae She’s Got Spies wedi rhyddhau eu sengl newydd heddiw, 8 Tachwedd.
She’s Got Spies ydy prosiect cerddorol Laura Nunez, sy’n hanu’n wreiddiol o Lundain ond a ddechreuodd ddysgu Cymraeg cyn symud i fyw yng Nghaerdydd yn ystod y nawdegau. Mae ei band wedi’i enwi ar ôl un o ganeuon Super Furry Animals, sef un o’r prif ddylanwadau ar Laura i ddysgu Cymraeg.
Ffurfiwyd She’s Got Spies yn wreiddiol yn 2005, a bu iddynt gael peth llwyddiant gan ymddangos ar raglenni teledu Heno a Bandit ynghyd â gwneud sesiynau radio ar gyfer BBC Radio Cymru.
Wedi hiatus hir, ail-ymddangosodd y prosiect llynedd gan ryddhau albwm cyntaf o’r enw ‘Wedi’ ar label Recordiau Rheidol.
‘Wedi Blino’
Nawr mae’r sengl newydd o’r enw ‘Wedi Blino’ yn arwydd o’r hyn sydd i ddod gydag addewid o albwm arall yn ystod 2020.
Y sengl Gymraeg ‘Wedi Blino’ fydd y gyntaf i gael ei rhyddhau o’r albwm ac mae ar gael i’w lawr lwytho a’i ffrydio nawr.
Mae ‘Wedi Blino’ yn rhagflas sy’n dangos She’s Got Spies yn rhoi mwy o bwyslais ar guriadau a phop, gydag arlliw o dywyllwch yma a thraw.
Aelodau’r band i gyd ydy Laura Nunez, Gareth Middleton (Gindrinker / Threatmantics) a Mel Beard.
“Pan fydd y byd mor flêr, beth arall allwch chi ei wneud?” meddai Laura Nunez wrth gyhoeddi’r newyddion am y cynnyrch newydd.
Mae’r sengl ddigidol yn cael ei rhyddhau ar label Zelebritee ac mae ar gael ar yr holl lwyfannau digidol arferol.