Mae cyn aelod Radio Luxembourg a Race Horses, Dylan Hughes, yn paratoi i ryddhau ail sengl ei brosiect cerddorol diweddaraf.
Ynys ydy enw prosiect newydd y cerddor sy’n dod o Aberystwyth yn wreiddiol, ac fe ryddhawyd ei sengl gyntaf, ‘Caneuon’, ym mis Ebrill eleni.
Nawr, mae’n barod i ryddhau mwy o gynnyrch ar ffurf y sengl ‘Mae’n Hawdd’, sydd allan ar 26 Gorffennaf.
Ysgrifennwyd y sengl newydd gan Dylan rhyw bum mlynedd yn ôl ar ôl bod am dro ar hyd yr arfordir yng nghanol y nos.
Hon oedd y gân gyntaf iddo recordio yn dilyn sawl blwyddyn segur ar ôl i Race Horses chwalu yn 2013, er iddo fod yn aelod o’r siwpyr-grŵp Endaf Gremlin am gyfnod byr wedi hynny.
Mae ‘Mae’n Hawdd’ yn cael ei disgrifio fel trac sain sinematig i ddarlun hyfryd o leuad yn disgleirio dros donnau’r môr.
Mae wedi troi at hen ffrind, Mali Llywelyn, i ganu ar y trac ac fe recordiwyd y gân â chymysgedd o sequencers o’r 1980au, peiriannau llinynnau o’r 1970au a harmonïau meloncolig. Mae’r gân yn cyffwrdd â themâu dwys o deithio, newid, darganfod dy hun a theimladau ynysig, ond mae iddi hefyd gytgan dyrchafol a chadarnhaol.
Label Recordiau Libertino sy’n gyfrifol am ryddhau’r sengl newydd.
Dyma fideo’r diwn ardderchog, ‘Caneuon’: