Sengl newydd Yr Oria, ac EP ar y ffordd

Wedi cyfnod tawel, mae Yr Oria wedi rhyddhau sengl newydd o’r enw ‘Dim Maddeuant’, gan hefyd ddatgelu fod EP newydd ar y ffordd yn fuan.

Bu 2018 yn flwyddyn cymharol dawel i’r grŵp yn dilyn blwyddyn brysur yn 2017 a welodd ryddhau cyfres o senglau ac EP cyntaf ganddynt.

Ond er eu bod wedi bod yn dawelach o ran gigs a chynnyrch newydd, mae’r band wedi bod yn brysur yn ysgrifennu a recordio, ac mae ffrwyth eu llafur wedi dechrau dod i’r wyneb.

Yn ôl Garry, prif ganwr Yr Oria, maen nhw bron iawn â gorffen recordio EP 5 trac gyda’r gobaith o’i ryddhau ym mis Ebrill.

Ac, fel tamaid i aros pryd, maen nhw wedi rhyddhau’r sengl ‘Dim Maddeuant’ ar lwyfannau digidol wythnos diwethaf. Mae’r gân newydd eisoes wedi cael ymateb da, ac wedi ei dewis i fod yn drac sain fideo crynodeb Uwch Gynghrair Cymru rhaglen Sgorio yr wythnos hon.

I gefnogi rhyddhau’r EP, mae’r band wrthi’n cynllunio cyfres o gigs, gyda chyhoeddiad ynglŷn â’r dyddiadau yma’r fuan.

Newidiadau

Mae aelodaeth Yr Oria wedi newid ychydig dros y flwyddyn ddiwethaf hefyd. Mae’r grŵp pedwar aelod wedi’i gwtogi i ddau aelod llawn erbyn hyn sef Garry Hughes a Gareth Ellis, gyda cherddorion sesiwn yn ymuno i chwarae dryms yn fyw.

Yn ôl Garry, mae cryn newid wedi bod i sŵn cerddoriaeth Yr Oria hefyd.

“Da ni wedi newid yn llwyr dwi’n teimlo” meddai’r canwr a gitarydd.

“Oedd angen i ni newid fyd, a da ni’n teimlo fel ein bod ni wedi ffeindio rwbath sy’n gweithio i ni drwy fynd i gyfeiriad mwy electroneg.

“Ma’r sîn yn newid dydi, a dwi’n meddwl bydd yr arddull mwy electronig yn siwtio ni a hwn fydd y ffordd ymlaen rŵan i’r band efo synths, samples a rhoi llai o bwyslais ar offerynnau traddodiadol.

“Wedi deud hynna, fyddwn ni dal yn defnyddio gitârs, ond mewn ffordd mwy atmospheric.”

Yn ôl Garry, bydd yr EP yn adlewyrchu cyfeiriad newydd y band yn glir.

“Ma’r EP yn dangos siwrna â’r datblygiad dwi’n sicr. Ma’r ddau drac cyntaf yn eithaf trwm ar y gitârs, tra bod y defnydd o’r synths a dryms electroneg yn dod yn llawer yn nes mewn i’r EP.”

Er bod newid sylweddol i aelodaeth a sŵn y band, mae Yr Oria wedi cadw at y fformiwla recordio fu’n llwyddiannus gyda’i cynnyrch cyntaf, gan recordio yn Stiwdio Ferlas gyda’r cynhyrchydd Rich Roberts.