Sengl Omaloma allan ddiwedd mis Mai

Bydd y grŵp o Ddyffryn Conwy, Omaloma, yn rhyddhau eu sengl ddiweddaraf ar ddiwedd mis Mai.

‘Dywarchen’ ydy enw sengl newydd hafaidd y grŵp, ac fe’i chrëwyd yn ystod ymweliad â Llyn Dywarchen.

31 Mai ydy dyddiad rhyddhau swyddogol y sengl newydd, a label Recordiau Cae Gwyn fydd yn ei rhyddhau. Bydd ar gael i’w ffrydio a lawr lwytho ar y llwyfannau digidol arferol.

Ond, nid dim ond un trac fydd yn cael ei rhyddhau ar y sengl newydd gan fod ‘ochr B’ hefyd. ‘Europa B’ ydy enw’r ail drac, ac yng ngeiriau’r label y gân ydy’r “diwn thema i gyfres sci-fi nad oedd erioed yn bodoli.”

Dyma gynnyrch cyntaf Omaloma ers rhyddhau’r sengl ‘Bubblegum’ ym mis Mawrth 2018.

Dyma ‘Dywarchen’: