Mae’r grŵp o Ddyffryn Conwy, Serol Serol, wedi cyhoeddi y byddan nhw’n rhyddhau sengl newydd ar ddydd Gwener 10 Mai.
‘Pareidolia’ ydy enw’r trac newydd, ac mae’n cael ei rhyddhau gan label Recordiau I KA CHING.
Ymddangosodd pop gofodol seicadelig Serol Serol am y tro cyntaf rhyw ddwy flynedd yn ôl wrth i I KA CHING ryddhau’r sengl ‘Cadwyni’ ym Mehefin 2017.
Er bod peth dirgelwch ynglŷn â’r prosiect yn y lle cyntaf, daeth i’r amlwg mai Mali Siôn a Leusa Rhys oedd yn gyfrifol am leisiau hudolus Serol Serol, gyda chymorth y cerddorion amlwg Llŷr Pari (Jen Jeniro / Palenco / Y Niwl / Omaloma) a George Amor (Omaloma / Sen Segur).
Y gyntaf o dair
‘Pareidolia’ ydy cynnyrch cyntaf y grŵp ers rhyddhau’r albwm, Serol Serol, ychydig dros flwyddyn yn ôl, ym mis Mawrth 2018.
Er eu bod nhw wedi bod yn gymharol dawel o ran gigio ers hynny, roedden nhw yn y newyddion yn gynharach eleni wrth iddynt dderbyn gwobr flynyddol ‘Gwobr Gerddorol Llwybr Llaethog’ am eu cyfraniad arbennig i gerddoriaeth Gymraeg.
Yn ôl y grŵp mae ‘Pareidolia’ yn trafod y tueddiad o weld wynebau mewn gwrthrychau neu elfennau naturiol gan ofyn a ydyn nhw yno neu beidio. Yn ôl eu harfer mae’r grŵp wedi llwyddo i greu sŵn arallfydol, hypnotig a chynnes sy’n mynd â’r gwrandäwr i rywle arall.
Cafodd i sengl ei chwarae gyntaf ar raglen Huw Stephens ar BBC Radio Cymru wythnos diwethaf.
Mae’n debyg mai ‘Pareidolia’ ydy’r gyntaf o dair sengl fydd yn cael eu rhyddhau gan Serol Serol dros yr haf eleni – digon i edrych mlaen ato o gyfeiriad Dyffryn Conwy felly…boed y Steddfod yn digwydd yno neu beidio!
Dyma ‘Aelwyd’ o’r albwm Serol Serol: