Sesiwn Ochr 1 Wigwam

Mae Ochr 1 wedi cyhoeddi trac sesiwn gan Wigwam ar eu llwyfannau digidol.

‘Yn y Byd’ ydy’r trac dan sylw, ac mae wedi’i gyhoeddi ar sianel YouTube Ochr 1 ddydd Gwener diwethaf, 1 Mawrth. Mae’r fideo yn cynnwys nifer o ffeithiau am y band – rhai o ddifri, ac eraill gyda tafod ym moch.

Rhyddhawyd ‘Yn y Byd’ fel un o draciau albwm cyntaf Wigwam, Coelcerth, a ryddhawyd mewn pryd i’r Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd ym mis Awst llynedd.

Gyda’r aelodau i gyd yn ddisgyblion neu cyn-ddisgyblion Ysgol Uwchradd Plasmawr yn y Brifddinas, roedd 2018, a’r Eisteddfod yn benodol yn arwyddocaol iawn i’r grŵp ifanc.

Bu iddynt gystadlu yn rownd derfynol Brwydr y Bandiau, cystadleuaeth a enillwyd gan y grŵp arall o’r brifddinas Y Sybs, ar faes yr Eisteddfod, ond defnyddiwyd eu caneuon hefyd fel sail ar gyfer sioe gerdd ‘Mynd a Dod’ a berfformiwyd gan Ysgol Plasmawr yn ystod wythnos yr Eisteddfod.

Cymaint oedd eu llwyddiant yn 2018 nes iddynt gyrraedd rhestr fer categori ‘Band neu Artist Newydd Gorau’ Gwobrau’r Selar fis diwethaf ac eu perfformiad ar nos Sadwrn y Gwobrau oedd un o uchafbwyntiau’r penwythnos yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth.