Yn hwyrach bore ma bydd cyfle cyntaf i glywed sengl newydd Bwca yma ar wefan Y Selar.
Mae ‘Weda i’ allan yn swyddogol ar ddydd Gwener 28 Mehefin, a hynny ar label annibynnol y grŵp.
Roedd Y Selar yn ddigon ffodus i ddal Bwca am sgwrs fach sydyn ar ôl eu set ar Lwyfan Perfformio Eisteddfod yr Urdd Bae Caerdydd gwpl o wythnosau nôl, ac roedd cyfle i drafod y sengl newydd a chynlluniau Bwca dros yr haf.