‘Sigaret’ – rhyddhau sengl gyntaf Dienw

Mae’r grŵp ifanc cyffrous o’r gogledd, Dienw, wedi rhyddhau eu sengl cyntaf ar label recordiau I KA CHING.

Rhyddhawyd ‘Sigaret’ yn ddigidol ddydd Gwener diwethaf, 18 Hydref, a dyma gynnyrch swyddogol cyntaf y grŵp a ffurfiwyd yn wreiddiol fel rhan o gynllun ‘Marathon Roc’ yn y Galeri, Caernarfon.

Pwy ydy Dienw?

Deuawd ydy Dienw, sef Twm Herd ar y gitâr a phrif lais, ac Osian Land ar y dryms. Maent yn disgrifio eu hunain fel ‘band amrwd a gonast sy’n plethu agweddau indie a phychadelic.”

Mae enw’r band yn deyrnged i un o ganeuon y band gwallgof ond hoffus, Eitha Tal Ffranco.

Ac efallai bod y grŵp hwnnw wedi dylanwadu ar Dienw mewn sawl ffordd gan bod y ddeuawd yn credu fod eu caneuon yn llawer mwy ‘tafod ym moch’ na llawer o’r hyn sydd ar gael yn y Gymraeg ar hyn o bryd.

Ar ôl ffurfio nôl yn 2017 cafodd y ddeuawd gyfle i wneud sesiwn ar gyfer rhaglen Huw Stephens ar Radio Cymru yn 2018.

Recordiwyd y sengl yn Stiwdio Drwm gydag Ifan ac Osian Candelas, fel rhan o sesiwn.

Twm hefyd sy’n gyfrifol am y gwaith celf sydd wedi’i greu gyda inc marblo ac yn defnyddio blerwch y lliwiau i efelychu blerwch noson allan.