Byddwch chi’n gwybod bellach ein bod ni’n hoff iawn o bodlediadau Y Sôn yma yn Selar HQ, felly mae bob amser yn ddiwrnod o lawenydd pan fydd podlediad newydd yn ymddangos.
Ac mae podlediad rhif 15 hogia blog Sôn am Sîn wedi’i gyhoeddi ar gyfryngau amrywiol erbyn hyn – hwre!
Yn ôl yr arfer, Chris a Geth o flog Sôn am Sîn sy’n cyflwyno’r podlediad ac maent yn trafod nifer o agweddau’n ymwneud â’r sin gerddoriaeth Gymraeg, a thu hwnt.
Mae’r pod diweddaraf yn adolygu albyms newydd Los Blancos a Gruff Rhys, ynghyd â thrafod gŵyl Ara Deg a gynhaliwyd ym Methesda yn ddiweddar.
Maen nhw hefyd yn trafod ambell ben-blwydd cerddorol sy’n cael eu dathlu eleni, gan gynnwys Abbey Road gan The Beatles a pha ben-blwyddi cerddorol fydden nhw’n hoffi gweld yn cael eu nodi yn 2020.
Ond rhan orau’r bennod yn sicr ydy’r gêm gerddorol newydd wych maen nhw wedi dyfeisio – ‘Spotifive’!
Yn ôl yr arfer mae’r drafodaeth graff a difyr gan y ddeuawd.